Blaenoriaethau Gwariant

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:58, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

O ystyried eich bod am greu swyddi gwell yn nes at adref, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn fy etholaeth yn cytuno bod taer angen darparu swyddi â chyflogau da yn y Rhondda, mae'n un o'r pethau sy'n codi amlaf yn fy nghymorthfeydd stryd, ond nid yw pobl yn argyhoeddedig eich bod yn mynd i gyflawni hynny. Felly, o gofio hynny, a allwch ddweud wrthym beth yw'r gyllideb ar gyfer tasglu'r Cymoedd, a faint o'r gyllideb hon, os oes un, sy'n cael ei dyrannu ar gyfer ysgogi gweithgarwch economaidd yn Rhondda Cynon Taf—yn benodol yn y Rhondda?