Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog, ond dechreuodd y gwaith ar ledu ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng Gilwern a Brynmawr yn 2014, ac roedd i fod i ddod i ben y mis nesaf. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd bod y dyddiad cwblhau wedi'i newid i 2020 ac y byddai'n costio £54 miliwn yn ychwanegol. Nawr, rydym yn gwybod ac yn clywed na fydd y prosiect hwn wedi'i gwblhau tan ddiwedd y flwyddyn nesaf. Ond honnir na fydd hyn yn cael effaith ar gost gyffredinol y cynllun.
Weinidog, a ydych wedi trafod y mater hwn gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth? Ac a allwch gadarnhau na fydd yr oedi hwn yn cynyddu'r cyllid sydd ei angen i gyflawni'r cynllun hwn, uwchlaw'r £324 miliwn y mae disgwyl iddo gostio eisoes?