Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:15, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn arbennig o falch o weld, fel rhan o hynny, y buddsoddiad o £7 miliwn i gefnogi a gwarchod ein hamgylchedd. Mae ei ymgorffori yn ein gwariant cyfalaf yn rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y bu Llywodraeth Cymru mor gywir i'w ddatgan. A allwch ddarparu unrhyw fanylion pellach inni heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth i gyflawni hyn?