Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:12, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn costio mwy na benthyca gan y Llywodraeth. Pe na bai hynny'n wir, dyna fyddai'r dull o fenthyca a ffafrir. Menter cyllid preifat ydyw i bob pwrpas heb reolaeth cyfleusterau.

Ar brosiect risg isel, gyda chost ychwanegol amcangyfrifedig o 3 y cant ar gyfer benthyca, 5 y cant ar gyfer elw, a 2 y cant ar gyfer rhan budd cymunedol y cynllun, mae'n ychwanegu £1 miliwn yn ychwanegol am bob £10 miliwn o gost. A oes gan y Gweinidog ffigurau gwahanol? Ac a fydd yn rhaid i gynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd y gost ychwanegol, brofi eu budd yn erbyn meini prawf llymach?