Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran gwariant ataliol wedi bod yn thema gyson yng ngwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o graffu ar y gyllideb, ac yn wir, yng ngwaith craffu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Ac mae'r ffigurau y cyfeirioch chi atynt—a chlywais eich ateb i Llyr Gruffydd hefyd—yn niferoedd bach o'u cymharu â'r gyllideb gyfan rydych yn ei gosod. A fyddech yn cytuno â mi fod llawer mwy y gallem ei wneud i flaenoriaethu gwariant ataliol, ac a ydych hefyd yn cytuno â mi mai'r gwariant ataliol pwysicaf y gall unrhyw Lywodraeth ei wneud yw gwario ar addysg ein plant a'n pobl ifanc?