Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Ni allaf roi ffigurau i chi ar hynny o'r briff sydd gennyf o fy mlaen heddiw, ond fe edrychaf ar hynny. Ond rwyf am ddweud hefyd fod angen i unrhyw waith cysylltiedig fod yn rhan o astudiaeth ddichonoldeb mewn perthynas â datblygu'r twnnel, gan nad yw'n gwneud synnwyr agor twnnel a pheidio â sicrhau bod y mynediad iddo ar y ddwy ochr yn golygu ei fod yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol.