Archif Genedlaethol Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:48, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf eich siomi, ond nid oes gennyf uchelgais bersonol i greu mwy o sefydliadau cenedlaethol yn ystod y cyfnod sy'n weddill gennyf fel Gweinidog, ond yn wir, fe arhosaf am yr adroddiad sydd ar ei ffordd o law'r ymgynghorwyr. Comisiynwyd yr astudiaeth ddichonoldeb gan Elizabeth Oxborrow-Cowan Associates, sy'n fedrus ac yn wybodus iawn yn y maes hwn. Mae'r gwaith wedi cynnwys arfarnu opsiynau i ystyried y model gwasanaeth mwyaf priodol, gan y credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth inni edrych ar wasanaethau cenedlaethol i Gymru, na ddylent ddyblygu'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill o reidrwydd, ond y dylid eu teilwra i'r hyn sy'n addas i'r wlad. Cafwyd adolygiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth a systemau cofnodion cyhoeddus cyfredol, dadansoddiad o fodelau archifau cenedlaethol, gwaith proffilio'r ddarpariaeth archifol gyfredol a thrafodaethau difrifol. Fel rydych yn ei ddweud yn gwbl gywir, roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol, ond fel y dywedaf, fy mwriad yw aros i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, ond ni allaf nodi pryd y gallai hynny ddigwydd. Ond fel y dywedaf, nid yw'n un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, er ei bod yn ddiddorol nodi ei bod, yn ôl pob golwg, yn un o flaenoriaethau'r wrthblaid swyddogol. Felly, cawn weld a ellir dod i gytundeb ar hyn o beth.