Castell Rhiw'r Perrai

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:59, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn manwl. Byddaf yn sicr yn ymrwymo i ystyried y castell yn ei gyd-destun ac fel rhan o'r dirwedd, neu'r treflun, gan nad yw adeiladau hanesyddol yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent bob amser yn bodoli mewn perthynas â'r amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig o'u cwmpas, ac felly mae cyfrifoldeb gan Cadw, ac rydym bob amser yn dweud, 'Rydym yn statudol.' Ni ddylwn ddweud 'rydym', a dweud y gwir, gan mai fi yw'r Gweinidog ar gyfer Cadw, ond mae'n un o fy hoff sefydliadau yn y byd ac roedd hynny'n wir cyn i mi gael y swydd hon hefyd. [Chwerthin.] Felly, mae Cadw yn ymateb i unrhyw ymgynghoriad statudol, a byddant yn nodi'r amddiffyniad i'r heneb os caiff ei heffeithio'n andwyol gan ddatblygiad allanol.

Ni allaf wneud sylwadau ar y materion cynllunio ehangach, sy'n fater i'r Gweinidog cynllunio, wrth gwrs, ond wrth ystyried materion cynllunio, mae'n rhaid i ni yn y Llywodraeth fabwysiadu ymagwedd integredig ac rydym yn mabwysiadu ymagwedd integredig iawn, fel bod yr holl ffactorau sy'n codi o ddatblygiad arfaethedig, a sut y maent yn effeithio ar yr adeiladau sy'n bodoli'n barod, yn rhywbeth a fyddai’n cael ei ystyried. Wrth gwrs, buaswn yn disgwyl y byddai unrhyw ddatblygiad mawr mewn ardal o'r fath yn debygol o fod yn destun proses gynllunio a allai alw am ymchwiliad cyhoeddus, ac o bosibl, adroddiad gan arolygydd, ond ni allaf ddyfalu ynglŷn â hynny, a byddai hynny'n rhoi cyfle i'r cyhoedd a chithau, wrth gwrs, fel eu cynrychiolydd, wneud sylwadau grymus am y datblygiad.