Niferoedd Twristiaid

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:49, 20 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Un o fy mlaenoriaethau wrth gefnogi twristiaeth—. Nid wyf byth yn siŵr pa ffordd i edrych. [Chwerthin.] Rwyf i fod i annerch y Dirprwy Lywydd, os gwnewch chi oddef fy nghefn am funud.

Un o fy mlaenoriaethau yw cefnogi twristiaeth ledled Cymru drwy farchnata, cyllid datblygu cyfalaf ar gyfer busnesau twristiaeth newydd a phresennol a chyllid refeniw ar gyfer prosiectau rhanbarthol. Ers 2014, mae buddsoddiad twristiaeth wedi darparu wyth pecyn cyllid yng Nghymoedd de Cymru, sef cyfanswm o £3.7 miliwn, gan arwain at fuddsoddiad o £11.3 miliwn.