Chwiliadau Diogelwch

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:04, 20 Tachwedd 2019

Wedi i'r Comisiwn ddod yn ymwybodol bod sgyrsiau preifat a chyfrinachol wedi'u recordio ar ystâd y Cynulliad, cynhaliwyd chwiliadau diogelwch ar draws yr ystâd i sicrhau nad oes unrhyw ddyfeisiadau recordio cudd o'r fath yn dal i fod yn bresennol. Bu'n rhaid inni gymryd y cam hwn i roi sicrwydd i Aelodau’r Cynulliad a'u staff, staff Comisiwn y Cynulliad, staff Llywodraeth Cymru, defnyddwyr eraill yr ystâd ac aelodau’r cyhoedd y gallent fod yn hyderus eu bod yn sgwrsio mewn amgylchedd diogel, heb fod angen ofni bod rhywun yn clustfeinio ar eu gwaith.