Cwynion Ynghylch Safonau

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:08, 20 Tachwedd 2019

Fel Llywydd, ni chefais unrhyw drafodaethau â Syr Roderick Evans mewn perthynas â chwynion safonau. Cefais ddau gyfarfod gyda Syr Roderick Evans—un yn 2016, y cyfnod trosglwyddo yn fuan cyn iddo ymgymryd â rôl comisiynydd, a'r llall yn 2017 i drafod yr agenda urddas a pharch.

Mae adran 9 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn gosod dyletswydd ar Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i gyfeirio materion penodol at y comisiynydd safonau pan fônt yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad. Mae adran 10 o'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i'r comisiynydd roi gwybod i'r Clerc am rai materion sy'n berthnasol i'w swyddogaethau fel swyddog cyfrifyddu.