Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Rydym yn parhau i weithio gyda phob perchennog ac asiant rheoli adeiladau preswyl uchel iawn, a'n partneriaid yn y gwasanaethau tân ac achub ac awdurdodau lleol, i sicrhau bod archwiliadau adeiladau angenrheidiol yn cael eu cynnal. Mae'r tân yn Bolton yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio ar y cyd a chynnal asesiadau risg cadarn o bob adeilad.