5. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 20 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:30, 20 Tachwedd 2019

Dwi eisiau sôn heddiw am addewid aelodau'r Guides yn Amlwch i ddod yn amddiffynwyr y blaned, ac maen nhw'n gofyn i ninnau eu helpu nhw. Fel rhan o'u hymgyrch, Merched y Dyfodol, mi ofynnodd Girlguiding i filoedd o ferched beth ydy'r materion sy'n bwysig iddyn nhw. A doedd hi'n ddim syndod gweld bod yr amgylchedd o ran atal newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth yn flaenoriaeth amlwg. Ac maen nhw eisiau gweithredu yn syth. Mi gysyllton nhw efo fi, i rannu eu haddewidion plastig.