Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Er y gallwn ddeall nod y cynnig hwn, sydd wedi'i gynllunio i annog pobl allan o'u ceir ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath yn debygol o niweidio gweithwyr llai cefnog yr awdurdod lleol. Mae'n ddigon posibl y gallai'r rhai ar gyflogau swyddogion gweithredol fforddio'r ardoll ac y byddent yn parhau fel o'r blaen, tra gallai orfodi rhai llai cefnog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai fod yn anghyfleus neu'n annigonol. Mae'n rhaid inni gydnabod—