Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelod am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd Jenny Rathbone, mae deddfwriaeth sylfaenol yn bodoli o dan Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sydd eisoes yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr weithredu ardollau parcio yn y gweithle. Nid wyf am fanylu gormod ar y Ddeddf, ond hoffwn gadarnhau ei bod yn cynnwys darpariaeth fanwl ar y defnydd o'r enillion net o gynlluniau, ac yn darparu mai'r elw net yn unig sydd ar gael—yn unig. Roedd Michelle Brown yn hollol anghywir i wneud rhagdybiaethau yn deillio o ddiffyg tystiolaeth. Ni chaiff yr awdurdod eu defnyddio ac eithrio i hwyluso'r broses o gyflawni polisïau trafnidiaeth leol yr awdurdod traffig lleol yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Fel y cyfryw, mater i awdurdodau lleol yw penderfynu a ddylid cyflwyno mesurau o'r fath yn eu hardal ai peidio, ond nid yw hynny'n golygu trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn syml i awdurdodau lleol ymdopi â'r broblem. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu, ac ar 29 Ebrill eleni, fe wnaethom ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym yn arwain ac yn ymateb i'r galwadau am gamau gweithredu gan bobl o bob oed sy'n pryderu am effeithiau newid hinsawdd. Fel y mae'r Aelodau wedi dweud, mae Cymru'n hynod ddibynnol ar y car ar hyn o bryd. Nid oes dadl o gwbl ynglŷn â hynny. Mae cyfaint y traffig wedi cynyddu dros draean ers datganoli, gan gyrraedd uchafbwynt o 29.4 biliwn cilomedr cerbyd yn 2018. Roedd y rhan helaethaf o'r traffig hwnnw, 94 y cant, yn geir, tacsis a faniau. Felly, mae'n bosibl iawn y bydd mynd i'r afael â'n gorddibyniaeth reddfol ar geir a'n galluogi i symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn heriol, ond mae'n gwbl angenrheidiol.
Gall pob math o newid ymddygiad fod yn heriol, boed yn atal ysmygu mewn mannau cyhoeddus neu ddod â'n perthynas â bwyd brys afiach i ben, ond mae'n gwbl angenrheidiol. A bydd cydnabod yr hierarchaeth drafnidiaeth gynaliadwy, sy'n rhoi blaenoriaeth i ddulliau teithio cynaliadwy, yn un o gonglfeini allweddol strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru sydd i'w chyhoeddi yn 2020. Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oed a phob gallu yn hyderus y gallant wneud teithiau dyddiol drwy gerdded, drwy feicio neu drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a gwneud hynny'n ddiogel.
Yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr arian sydd ar gael i greu a gwella seilwaith teithio llesol. Ac ers mis Rhagfyr 2017, mae gan bob awdurdod lleol gynlluniau ar waith ar gyfer rhwydweithiau teithio llesol integredig i 142 o'r aneddiadau mwyaf yng Nghymru. Ac yn 2018, sefydlwyd y gronfa teithio llesol i greu'r rhwydweithiau hyn.
Nododd Jenny Rathbone enghraifft ardderchog Nottingham, lle mae arweinwyr lleol wedi llwyddo i weithredu ardollau parcio sy'n codi refeniw yn y gweithle. Mae'r ardollau wedi bod yn drawsnewidiol, ac mae'n profi unwaith eto fod Michelle Brown yn gwbl anghywir i wneud rhagdybiaethau. Mae'r cynllun penodol hwnnw wedi codi £9 miliwn o refeniw. Mae'n costio tua £500,000 i'w weithredu, ac mae'r refeniw net wedi'i fuddsoddi mewn darpariaeth dramiau a bysiau drawsnewidiol yn y ddinas.
Yn sicr felly, buaswn yn annog awdurdodau lleol i ystyried defnyddio'r Ddeddf Trafnidiaeth i leihau tagfeydd mewn mannau trefol, a chodi arian i'w fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol drwy wneud hynny. Mae gwrthdroi'r dirywiad mewn nawdd ar gyfer bysiau yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallwn leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, a darparu dewisiadau amgen yn lle ceir preifat, fel yr amlygwyd gan Nick Ramsay yn ei gyfraniad. A dyna'n union yw bwriad y Bil bysiau. Ar yr un pryd, rwyf wedi darparu £1 filiwn ar gyfer pedwar cynllun peilot integredig ar drafnidiaeth seiliedig ar alw a fydd yn profi mathau arloesol o deithio ar fysiau seiliedig ar alw ledled Cymru.
Yn 2018 ymgynghorwyd ar fframwaith parth aer glân i Gymru, a chyhoeddwyd crynodeb o'r canlyniadau ym mis Ebrill eleni. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol, sy'n ystyried opsiynau i fynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, i gefnogi cyflawni terfynau'r UE, yn ogystal â chamau gweithredu i reoli ansawdd aer lleol, yn cynnwys rôl ardollau ar barcio.
Ddirprwy Lywydd, nid oes dim i atal awdurdodau lleol rhag gwneud yr hyn y mae Jenny Rathbone yn ei argymell, a hynny'n briodol, rwy'n teimlo. Mae'r pwerau yno, mae'r rhesymau dros eu gweithredu a'u defnyddio'n glir. Ac felly, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn annog cefnogwyr y cynllun i bwyso ar eu hawdurdodau lleol i ystyried yr ymyrraeth brofedig hon.