Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 20 Tachwedd 2019.
Wel, rwy'n credu bod dau bwynt yno, onid oes? Mae un yn ymwneud â gofal diwedd oes, sy'n flaenoriaeth bwysig mewn gofal sylfaenol, ac nid yw hynny'n syndod o ystyried proffil ein poblogaeth a'r niferoedd dan sylw, ac mae llawer mwy o ymgysylltu ac ymwneud mewn gofal sylfaenol o ran darparu gofal diwedd oes da—mae'n rhan o'r gwaith arferol mewn gofal sylfaenol, felly nid ein nyrsys ardal a'n meddygon teulu yn unig. Mae rhywbeth yno ynglŷn â'n gwaith gofal diwedd oes sy'n bendant yn ymwneud â sut y darparwn hynny mewn gofal sylfaenol.
Mae'r ail bwynt, mae'n debyg, yn rhan o'r hyn y mae Paul Sartori hefyd—. Ymwelais â hwy, ac roedd yn ymweliad pleserus ac addysgiadol iawn hefyd. Mae rhywbeth ehangach ynglŷn â'r ffordd rydym yn ailgylchu arian o glystyrau gofal sylfaenol, a bydd gennyf fwy i'w ddweud am ariannu clystyrau gofal sylfaenol pan gawn rai o fanylion y gyllideb. Bydd yn rhaid i chi fod yn amyneddgar am gyfnod cymharol fyr o amser.
Gan ddychwelyd at rai o'r cymariaethau a wnaed â gwaith mewn rhannau eraill o'r DU, rydym yn ymwybodol o'r gwaith a gomisiynwyd yn yr Alban gan hosbisau plant ledled yr Alban i ddeall lefel eu hangen am ofal lliniarol pediatrig heb ei ddiwallu ac i nodi nodweddion eu poblogaeth a'u demograffeg. Mae Gwasanaethau Cenedlaethol GIG yr Alban, a wnaeth y gwaith hwnnw yn 2018, wedi'u gwahodd i'r bwrdd gofal diwedd oes nesaf ym mis Rhagfyr i weld beth y gallwn ni yng Nghymru ei ddysgu o'r gwaith hwnnw a'r ffordd orau o'i gymhwyso.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn gweithio gyda Tŷ Hafan a hosbisau eraill i ddeall faint o waith fydd ei angen ar ddatblygu gwasanaethau a'r gweithlu er mwyn diwallu anghenion gofal lliniarol yn y dyfodol yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r sector statudol a phartneriaid y trydydd sector i wireddu'r uchelgais a nodais i fod yn wlad dosturiol gyntaf y byd. I wneud hynny, mae'n rhaid i ni fod yn wlad sy'n hwyluso, cefnogi a dathlu gofal am ein gilydd yn gyhoeddus yn ystod cyfnodau anodd bywyd, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â salwch sy'n peryglu bywyd ac sy'n cyfyngu ar fywyd, anabledd cronig, heneiddio'n fregus, dementia, galar, a gofal hirdymor. Nawr, gyda chydweithrediad a thrwy gydweithio, byddwn yn cynorthwyo ein cymunedau i fod yn fwy gwydn i allu ymdopi â heriau bywyd. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i Byw Nawr ac i'r bwrdd gofal diwedd oes am ddatblygu'r gwaith ar y wlad dosturiol yng Nghymru, a byddaf yn cyfarfod â Byw Nawr eto yn y flwyddyn newydd.
Fodd bynnag, wrth inni ryngweithio â sefydliadau sector cyhoeddus a sector preifat, gall pob un ohonom eu hannog i ymgorffori'r ymagwedd hon ym mhob dim a wnânt hwythau hefyd. Fel y gŵyr yr Aelodau, bu'r bwrdd gofal diwedd oes yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Marie Curie a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru i adolygu lefel y gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru, a daeth yr adroddiad terfynol hwnnw i law swyddogion a'r bwrdd gofal diwedd oes yr wythnos diwethaf. Maent yn ystyried y canfyddiadau ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau maes o law, ond rwy'n falch o gadarnhau y bydd yn cael ei gyhoeddi cyn cyfarfod mis Rhagfyr y bwrdd gofal diwedd oes, a byddaf yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i'r Aelodau, gan fy mod yn gwybod bod cryn ddiddordeb ar draws y pleidiau yng ngwaith yr adolygiad hwnnw. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau fy mod yn bwriadu gwneud datganiad gan y Llywodraeth yn y flwyddyn newydd ar ofal diwedd oes a sut y bydd yr wybodaeth yng ngwaith yr adolygiad ar gymorth profedigaeth yn cael ei datblygu.
Felly, i gloi, credaf y gallwn ymfalchïo fel gwlad yn y cynnydd sylweddol a wnaed gennym ar ehangu mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol yma yng Nghymru, ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd gofal diwedd oes a'n holl bartneriaid statudol a thrydydd sector i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gofal diwedd oes o safon uchel mewn lleoliad o'u dewis.