Hawliau Dynol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:37, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae cryfhau hawliau dynol dinasyddion Cymru mewn sefyllfa ar ôl Brexit yn hanfodol, wrth gwrs. Ond tybed a ydych chi wedi rhoi ystyriaeth bellach i hawliau dynol y lleiafrif o ddinasyddion Cymru a fydd yn cael eu hystyried yn niwroamrywiol? A ydych chi'n credu bod yr amser wedi dod i ddeddfwriaeth cydraddoldeb ystyried niwroamrywiaeth fel nodwedd warchodedig ynddi ei hun?