Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:53, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Prif Weinidog, mae'r swm canlyniadol Barnett hwnnw o £3.4 biliwn yn dibynnu ar gynnydd enfawr i fenthyg cyhoeddus ac, os byddwch yn llwyddo yn eich nod i orfodi pobl Cymru a'r DU i bleidleisio eto a llwyddo yn eich ymgyrch i aros, byddwch yn cael eich gwahardd rhag benthyg yr arian hwnnw gan reolau'r Undeb Ewropeaidd.

Nawr, Prif Weinidog, mae maniffesto Llafur wedi addo adeiladu 100,000 o dai cyngor bob blwyddyn yn Lloegr—faint fyddwch chi'n eu hadeiladu yng Nghymru?