Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Wel, rwy'n gallu darparu i'r Aelod y ffigurau sydd gennym ni ar gyfer adeiladu tai cyngor yng Nghymru yn ôl y rhagamcan dros y cyfnod sydd ar ddod. Erbyn diwedd 2021, bydd dros 800 o dai cyngor newydd wedi eu hadeiladu yn ninas Caerdydd; bydd 150 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu ym Mhowys; bydd 176 o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu yn Ynys Môn. Felly, mewn llinell ddi-dor o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orllewin, bydd cannoedd o dai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu dan Lywodraeth Lafur, o dan reolau presennol, a bydd Llywodraeth Lafur yn San Steffan, gan ddarparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom, yn arwain at gynyddu cyflymder y gwaith cynhyrchu hwnnw yn ystod blynyddoedd y Llywodraeth Lafur nesaf.