Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolchaf i Angela Burns am hynna. Rwy'n credu ein bod ni'n fwy ymwybodol yn gyffredinol erbyn hyn o'r pwysau y mae gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol o bob math yn ei deimlo mewn rhan o'r gweithlu sydd dan bwysau mawr. Os oes syniadau newydd y gallwn ni eu defnyddio i gynorthwyo deintyddion yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud, yna, wrth gwrs, byddem yn hapus i siarad â'r BDA drwy'r ffyrdd arferol yr ydym ni mewn cysylltiad â nhw. Rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod hynny'n rhan o'r sgwrs nesaf honno.