1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Tachwedd 2019.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau deintyddol? OAQ54749
Diolch am y cwestiwn. Mae gan fwy o bobl yng Nghymru fynediad at ddeintyddiaeth gwasanaeth iechyd Cymru nag erioed o’r blaen, ac mae mynediad yn achos plant wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed. Er hynny, mae’r ddarpariaeth mewn rhai rhannau o Gymru’n dal yn her. Mae diwygio’r contract, buddsoddi mewn addysg ddeintyddol a rhyddhau’r proffesiwn yn rhai o'r atebion sy’n cael eu rhoi ar waith.
Yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, fel Aelodau Cynulliad, rydym ni'n parhau i dderbyn cwynion gan aelodau'r cyhoedd ynglŷn â phrinder deintyddion GIG yn lleol. Nawr, yn hen ardal Abertawe Bro Morgannwg yr wyf i'n ei chynrychioli, dywedir wrthym mai dim ond naw o'r 65 o bractisau deintyddol sy'n derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Mae deintyddiaeth GIG leol yn perthyn i'r gorffennol mewn llawer o'n cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad o'r blaen, fel yr ydych chi wedi ei wneud heddiw, am ei bwriad i roi sylw i recriwtio a chadw deintyddion, ac am ddiwygio contractau yn y tymor canolig, ond mae pobl eisiau gwybod pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd nawr yn eich trafodaethau gyda byrddau iechyd i geisio gwella capasiti deintyddol lleol y GIG yn y byrdymor, nawr?
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig wrth gydnabod bod heriau gwirioneddol ym maes deintyddiaeth y GIG mewn rhai rhannau o Gymru, ein bod ni hefyd yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd. Mae 40,000 yn fwy o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru heddiw nag yr oedd bum mlynedd yn ôl. Yn 2014, roedd gennym ni 1,439 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Heddiw, mae gennym ni dros 1,500 o ddeintyddion yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, mae canran y plant sy'n manteisio ar ddeintyddiaeth y GIG yng Nghymru ar y lefel uchaf erioed.
Nawr, ceir rhannau o Gymru lle mae honno'n her fwy. Un o'r rhesymau pam mae'n her fwy, gan feddwl am gyfeiriad Gareth Bennett at effaith Brexit ar staff GIG, yw'n union hynny: darperir 30 y cant o ofal deintyddol y GIG yn y Deyrnas Unedig gan wladolion yr UE. Nid yw'r bobl hynny'n cael eu recriwtio yn y ffordd yr oedden nhw oherwydd oerfel Brexit, ac mae hynny wedi achosi effaith benodol ar rai o'r cwmnïau deintyddol mawr yng Nghymru, sy'n canfod nad ydyn nhw'n gallu recriwtio deintyddion o dramor fel yr oedden nhw yn gallu ei wneud ar un adeg. Ond, rydym ni yn hyfforddi deintyddion yng Nghymru. Rydym ni'n hyfforddi 75 i 80 o ddeintyddion ychwanegol bob blwyddyn, ond ceir her i'r proffesiwn yma hefyd. Dylai diwygio'r contract olygu treulio llai o amser yn gwneud gwaith mater o drefn nad oes unrhyw fudd clinigol iddo gan ryddhau amser i wneud mwy o bethau yr ydych chi angen rhywun â sgiliau deintydd i'w gwneud. Ac mae angen i ni weld y proffesiwn yn cael ei ystwytho. Mae gennym ni lawer gormod o ddeintyddion yng Nghymru sy'n darparu llenwadau ac archwiliadau deintyddol mater o drefn, nad ydych chi angen rhywun â gallu hynod fedrus deintydd i'w wneud. Rydym ni angen i'r proffesiwn deintyddol ddilyn y proffesiwn meddygol gofal sylfaenol yng Nghymru trwy ledaenu nifer y bobl a'r mathau o broffesiynau sy'n gallu darparu deintyddiaeth y GIG, ac yna, byddwn yn gallu defnyddio'r sgiliau prin hynny i gael effaith glinigol lawn ac i gynnig lefel uwch o fynediad at ddeintyddiaeth y GIG.
Wrth gwrs, her arall i gadw deintyddion yng Nghymru yw'r diffyg cymorth y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd os oes ganddyn nhw salwch sy'n gysylltiedig â straen. Nawr, tynnwyd sylw at hyn gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain. Maen nhw wedi ei godi fel mater o bwys ymhlith deintyddion sy'n gweithio yn y GIG drwy'r DU gyfan, nid dim ond yng Nghymru.
Nawr, yn Lloegr, mae'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn darparu mynediad i ddeintyddion at eu rhaglen gynhwysfawr o gymorth iechyd i ymarferwyr y GIG, ond yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, nid oes unrhyw gymorth tebyg gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llesiant iechyd meddwl yn y fan yma. Tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi ystyried y pryder hwnnw, oherwydd ar ôl hyfforddi deintyddion, ar ôl recriwtio deintyddion, rydym ni'n sicr eisiau dal gafael arnyn nhw, ac os yw diffyg cymorth pan eu bod yn dioddef o salwch iechyd meddwl neu salwch cysylltiedig â straen yn un o'r rhesymau pam maen nhw'n gadael y maes deintyddol yng Nghymru, yna mae rhywbeth ymarferol y gallwn ni ei wneud yn ei gylch—neu y gallwch chi ei wneud yn ei gylch.
Diolchaf i Angela Burns am hynna. Rwy'n credu ein bod ni'n fwy ymwybodol yn gyffredinol erbyn hyn o'r pwysau y mae gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol o bob math yn ei deimlo mewn rhan o'r gweithlu sydd dan bwysau mawr. Os oes syniadau newydd y gallwn ni eu defnyddio i gynorthwyo deintyddion yn y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud, yna, wrth gwrs, byddem yn hapus i siarad â'r BDA drwy'r ffyrdd arferol yr ydym ni mewn cysylltiad â nhw. Rwy'n hapus iawn i wneud yn siŵr bod hynny'n rhan o'r sgwrs nesaf honno.