Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Nawr, rydym ni wedi clywed llawer dros y tair blynedd diwethaf am effaith drychinebus honedig Brexit ar bob math o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y GIG, ac rydym ni'n gwybod bod GIG Cymru eisoes yn ei chael hi'n anodd recriwtio digon o staff i ymdopi â'r galw. Ond rydym ni'n darganfod nawr mai bwriad y Blaid Lafur yw cyflwyno wythnos pedwar diwrnod, a fydd yn sicr o waethygu'r problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'n bolisi mor niweidiol fel bod llefarydd iechyd Llafur yn Lloegr eisoes wedi honni na fydd yn cael ei ddilyn yn y GIG. A hoffai'r Prif Weinidog achub ar y cyfle hwn i ymwrthod â'r polisi hwn a allai fod yn drychinebus?