Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r blaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru yn adlewyrchu'r rhai ar gyfer ein cenedl gyfan, fel y nodwyd yn fy ateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma: symud i gyfeiriad atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella gofal sylfaenol, mynediad prydlon at wasanaethau gofal, a buddsoddi ymhellach mewn iechyd meddwl.