1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Tachwedd 2019.
6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ54744
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'r blaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru yn adlewyrchu'r rhai ar gyfer ein cenedl gyfan, fel y nodwyd yn fy ateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma: symud i gyfeiriad atal, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella gofal sylfaenol, mynediad prydlon at wasanaethau gofal, a buddsoddi ymhellach mewn iechyd meddwl.
Roeddwn i'n gobeithio mai un o'ch blaenoriaethau efallai fyddai ymdrin â'r problemau parhaus yr ydym ni wedi eu gweld ers rhoi'r bwrdd iechyd hwnnw mewn mesurau arbennig oherwydd, wrth gwrs, mae pobl y gogledd yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi gan eich Llywodraeth pan ddaw i'n gwasanaeth iechyd gwladol yn y rhanbarth. Mae gennym ni fwrdd iechyd sydd wedi bod mewn mesurau arbennig ers pedair blynedd a hanner. Mae ei sefyllfa ariannol wedi dirywio ers iddo fod mewn mesurau arbennig, mae llawer o'i ddangosyddion perfformiad wedi dirywio hefyd; mae pobl yn aros hyd at ddwy flynedd am eu triniaeth orthopedig; rydym ni wedi gweld domino o feddygfeydd teulu sydd wedi cau ers i chi gymryd cyfrifoldeb am fesurau arbennig yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw; ac, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld y sefyllfa annymunol o anallu'r arweinwyr presennol gan orfod cyflogi rhywun sy'n byw dramor sy'n cael ei dalu £2,000 y dydd—nid yr wythnos, y dydd—er mwyn datrys y problemau yn y bwrdd iechyd hwnnw oherwydd y diffyg arweinyddiaeth o ansawdd.
Pa bryd y bydd pobl yn y gogledd yn gweld y newid a addawyd gennych iddyn nhw bedair blynedd a hanner yn ôl ac yn gweld y bwrdd iechyd hwnnw'n gweithredu i'w lawn botensial fel y gall pobl gael eu triniaeth mewn pryd a chael y canlyniadau y maen nhw'n eu haeddu?
Un diwrnod, Llywydd, fel y gwyddoch, bydd yr Aelod yn dod o hyd i rywbeth da i'w ddweud am y gwasanaeth iechyd y mae ei etholwyr yn dibynnu arno. Mae eu hadroddiad nhw ar wasanaethau iechyd yn y gogledd yn wahanol iawn i'w un ef.
Dim ond y mis diwethaf, cyflwynodd y Gweinidog iechyd gyfres o gamau y mae angen i'r bwrdd iechyd eu cymryd er mwyn symud ymlaen o fod mewn mesurau arbennig, ac rydym ni'n disgwyl i'r bwrdd iechyd adrodd yn erbyn y gofynion hynny erbyn 13 Rhagfyr. Bydd hynny'n dangos sut y mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiannau y mae wedi eu cael, y byddai'n dda clywed yr Aelod yn eu cydnabod weithiau: y ffaith bod pob swydd meddyg teulu dan hyfforddiant yn y gogledd wedi ei llenwi am y tro cyntaf; y ffaith bod cyfraddau brechu rhag y ffliw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymhlith y gorau yng Nghymru; y ffaith nad yw gwasanaethau mamolaeth, a oedd yn bryder ar ddechrau mesurau arbennig, yn fater sy'n peri pryder arbennig mwyach.
Pan glywaf yr Aelod yn pregethu wrthym am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, diffygion a'r angen i ddilyn cyngor y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o ran sicrhau cymorth allanol er mwyn gwella ymhellach fyth, rwy'n cael fy atgoffa o ymddiriedolaeth Unedig Swydd Lincoln y mae ei blaid ef yn gyfrifol amdani, ymddiriedolaeth sy'n hanner maint Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yr oedd ei diffyg y llynedd yn fwy na GIG Cymru gyfan gyda'i gilydd, ac sy'n gwario miliynau o bunnoedd i sicrhau cymorth allanol, ie, er mwyn ceisio ymdrin â'r problemau y mae'r ymddiriedolaeth honno'n eu hwynebu.
Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod sut mae iechyd a lles yn cael eu llunio gan fwy nag ymyrraeth glinigol yn unig. Mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith enfawr ar ganlyniadau iechyd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn sôn am yr angen am ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer lles a'r angen i gynnwys yr holl ffactorau hyn wrth sôn am genedl iach. Pa ystyriaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu rhoi i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol a chynllun iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth lles cenedlaethol a fyddai'n gweithio gyda'r GIG i wella canlyniadau iechyd, tynnu'r pwysau oddi ar staff gwych ein GIG a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithredu hyd eithaf ein gallu?
Diolchaf i Jack Sargeant am y pwyntiau pwysig iawn yna. Wrth ateb y ddau gwestiwn a ofynnwyd i mi y prynhawn yma am flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth iechyd gwladol, y peth cyntaf yr wyf i wedi ei grybwyll yw'r angen i symud y system i gyfeiriad atal. Os ydym ni'n mynd i atal afiechyd ymhlith poblogaeth Cymru, yna pwyslais ar y pethau hynny sy'n cadw pobl yn iach y bydd angen i ni ei weld yn y system yn ei chyfanrwydd.
Nawr, mae sut yr ydych chi'n cadw pobl yn iach yn gyfuniad o bethau y gall y gwasanaeth iechyd ei hun eu gwneud drwy raglenni brechu, er enghraifft, cyfraniad gwirioneddol bwysig y mae iechyd cyhoeddus yn ei wneud, ond hefyd yr holl wasanaethau cyhoeddus eraill hynny y cyfeiriodd Jack Sargeant atyn nhw. Rydym ni'n gwybod bod cyflwr tai yn cael effaith ddwys ar iechyd pobl. Rydym ni'n gwybod bod gallu bod mewn swydd sy'n cynnig boddhad i chi ac yn caniatáu i chi dalu eich ffordd yn y byd yn cael effaith enfawr ar lesiant pobl. Rydym ni hefyd yn gwybod bod pethau y gall unigolion eu gwneud drostynt eu hunain gyda chymorth o ran deiet, o ran ymarfer corff, o ran gofalu am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, a dim ond pan fyddwch chi'n tynnu'r holl bethau hynny at ei gilydd—y pethau y gall y gwasanaeth iechyd eu gwneud, y pethau y gall gwasanaethau cyhoeddus eraill eu gwneud a'r pethau y gall unigolion eu gwneud drostynt eu hunain—y byddwn ni'n llwyddo i greu gwasanaeth nad yw'n wasanaeth salwch gwladol, ond yn wasanaeth iechyd a llesiant gwladol o'r math y byddem ni eisiau ei weld yma yng Nghymru.