10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:05, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym ni hefyd wedi dynodi amrywiaeth o waith ymchwil i fynd i'r afael â bylchau yn y dystiolaeth sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi darn pwysig o ymchwil am nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal gan rieni ag anabledd dysgu.

Rwyf hefyd yn falch o adrodd ein bod yn datblygu rhaglen waith yn ymwneud â rhianta corfforaethol, y mae David yn ei arwain. Mae a wnelo hyn â chryfhau cyfrifoldebau dros blant sy'n derbyn gofal ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Bydd fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn cofio trafodaeth ddiweddar yn y Cabinet am yr hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawslywodraethol a gafwyd. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Yn rhy aml, clywn am anghenion plant ag ymddygiad cymhleth a heriol iawn sydd heb eu diwallu. Rwy'n falch bod y grŵp gorchwyl a gorffen gofal preswyl i blant, is-grŵp o grŵp cynghori'r Gweinidog, wedi bod yn ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r gallu i ddiwallu anghenion y plant hyn. Yn ôl cyngor y grŵp gorchwyl a gorffen, rydym ar fin cychwyn ar ddarn o waith yn canolbwyntio ar ddatblygu dewisiadau ar gyfer y garfan fechan o blant nad oes modd diwallu eu hanghenion i gyd pan fyddant yn gleifion mewnol mewn llety iechyd meddwl neu fathau eraill o lety diogel yn unig.

Hyd yn oed yn yr hinsawdd ariannol heriol iawn sydd ohoni, rydym yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol i wella canlyniadau i blant. Yn ddiweddar iawn, rydym ni wedi rhoi £15 miliwn yn fwy i'r gronfa gofal integredig. Mae hwn yn ddyraniad blynyddol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi plant sydd ar ffiniau gofal i'w hatal rhag dod yn rhai sy'n derbyn gofal, yn ogystal â phrosiectau i roi cymorth i blant sy'n cael gofal a/neu sy'n cael eu mabwysiadu. Mae hyn yn ychwanegol at y gwariant o £659 miliwn yn gyffredinol gan awdurdodau lleol ar wasanaethau plant a theuluoedd.

Felly, rwy'n falch o'r cynnydd rydym ni'n ei wneud, ond nid wyf yn hunanfodlon. Mae ein hystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos inni fod nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yn dal i gynyddu. Yn 2018-19, cynyddodd y nifer 7 y cant eto, gan gyrraedd 6,846. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n gweithio i fynd i'r afael ag ef, a byddaf yn dweud mwy am hynny cyn bo hir. Ond, mae nodyn o optimistiaeth. Mae'n bwysig nodi, am yr ail flwyddyn yn olynol, bod nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal wedi gostwng. Rwy'n gobeithio ein bod ni nawr yn dechrau gweld canlyniadau'r buddsoddiad yn ein gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, a holl waith y grŵp y mae David yn ei gadeirio. Rwyf eisiau i'r duedd hon barhau—y duedd hon sy'n mynd ar i lawr. I wneud hyn, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud gwelliannau i'r system gyfan fel bod gwasanaethau'n cael eu darparu sy'n rhoi cymorth amserol a chynnar i deuluoedd er mwyn iddyn nhw, lle bynnag y bo'n bosib, gael cymorth i aros gyda'i gilydd.

Byddwch i gyd yn ymwybodol o ymrwymiad clir y Prif Weinidog i leihau nifer y plant sy'n cael eu symud o'u teuluoedd, sy'n cael eu lleoli y tu allan i'r sir a'r tu allan i Gymru, a'u cymryd gan rieni sydd ag anabledd dysgu. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i gyflawni hyn drwy weithio'n agos gyda phob awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog. O'r cychwyn cyntaf, a thrwy gydol y daith hon, rwyf wedi bod yn gwbl glir ein bod yn meithrin agwedd o ddiogelwch yn gyntaf yma yng Nghymru—nid oes dim byd yn drech na'r angen i amddiffyn plant.

Mae pob awdurdod lleol wedi cyflwyno cynlluniau ynghylch disgwyliadau lleihau sydd wedi'u teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg eu hunain, ac rydym ni'n y broses o dderbyn y diweddariadau chwarterol cyntaf. Rwyf yn cefnogi'r gwaith hwn yn frwd drwy gynnal sgyrsiau â phartneriaid sy'n gyfranwyr allweddol ac a all ddylanwadu ar ffordd o weithredu sy'n cynnwys y system gyfan, er enghraifft, Mr Ustus Francis, barnwr cyswllt â theuluoedd Cymru; Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru; a rhai arweinwyr cyngor. Rydym ni'n cael trafodaethau cynhyrchiol iawn gyda'r bobl hynny.

Mae'r digwyddiad cenedlaethol diweddar ar ddysgu a chymorth i gymheiriaid y soniais amdano'n gynharach wedi rhoi cyfle gwerthfawr i awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth a'u profiad mewn cysylltiad â phlant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys yr arferion da yn yr awdurdodau hynny sydd wedi llwyddo i wyrdroi'r duedd gyffredinol a lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal dros amser. Mae cyfle i barhau â'r trefniant hwn o ddysgu cymheiriaid. Ynghyd â'n partneriaid mewn llywodraeth leol, rydym yn awyddus i sefydlu rhwydwaith cefnogi cymheiriaid mwy ffurfiol er mwyn datblygu'r gwaith hwn. Yn y gynhadledd hon, fe'm trawyd yn llwyr gan y brwdfrydedd a'r penderfyniad ymhlith y bobl hynny yn yr ystafell i wneud eu gorau dros y plant y mae gennym y fraint o ofalu amdanyn nhw.

Cyn inni ddechrau'r ddadl, roeddwn eisiau dweud rhywbeth am y gwelliannau, yr wyf yn falch iawn o'u derbyn. Mae gwelliannau Rhun ap Iorwerth yn gwneud pwyntiau pwysig iawn am dlodi a chyni, ail-gydbwyso'r system o blaid dull ataliol a thargedau. Rwy'n credu bod toreth o dystiolaeth sy'n dangos yr effaith y mae tlodi a chyni yn eu cael ar blant a theuluoedd. Ond gwyddom hefyd y bu nifer y plant mewn gofal yn cynyddu ers o leiaf 10 mlynedd cyn i gyni ddechrau, felly mae ffactorau eraill hefyd, fel amrywiadau rhwng awdurdodau lleol o ran polisi ac arferion. 

Mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol wedi'i gynllunio i helpu datblygu arfer a hwyluso'r broses o rannu dysg, fel y gallwn ni gyflawni ein hamcanion cyffredin i ostwng yn ddiogel nifer y plant mewn gofal.

O ran y system, mae ein holl fframwaith deddfwriaethol ac egwyddorion arweiniol y rhaglen gwella canlyniadau i blant yn ymwneud â symud cydbwysedd gofal tuag at ymyrraeth gynnar a dull ataliol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud—ac rwy'n siŵr y byddwn yn cytuno—y dylem ni flaenoriaethu gwaith atgyweirio yn hytrach nag achub. Rydym ni wedi gweld, ers dwy flynedd yn olynol bellach, fel y dywedais yn gynharach, ostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, y gallwn ei gysylltu â'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud mewn gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar.

Ac yn olaf, o ran targedau, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi gweithio mewn ffordd gyd-gynhyrchiol gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol. Yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn gosod targedau gorfodol, mae awdurdodau lleol wedi cynnig eu strategaethau penodol eu hunain, ac nid oes unrhyw gynlluniau i gosbi os na chaiff y targedau a gynigir eu bodloni. Rwyf wedi gwneud hyn yn glir i awdurdodau lleol o'r dechrau. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig nodi bod Comisiynydd Plant Cymru wedi cydnabod yn ddiweddar ei bod hi'n gefnogol i ddull Llywodraeth Cymru o gynllunio a chyflawni'r gwaith hwn, ac mae wedi cydnabod ein hymagwedd o ddiogelwch yn gyntaf. Felly, rwy'n falch o dderbyn y tri gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Diolch.