– Senedd Cymru am 5:00 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Eitem 10 yw dadl ar yr adroddiad blynyddol gwella canlyniadau i blant, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Julie Morgan.
Diolch. Mae'n fraint i mi gyflwyno'r adroddiad blynyddol hwn i'r Cynulliad heddiw. Dyma adroddiad cyntaf y rhaglen gwella canlyniadau i blant a oruchwylir gan fy ngrŵp cynghori'r Gweinidog, a gadeirir mor fedrus gan David Melding AC.
Rwyf yn defnyddio'r gair 'braint' yn fwriadol am fy mod yn teimlo'n angerddol dros fy nghyfrifoldeb am yr agenda hon ac rwy'n ddiolchgar iawn i David am ei arweinyddiaeth, ei gyfeiriad strategol a'i ymrwymiad i blant a phobl ifanc ledled Cymru sydd wedi cael profiad o ofal. Mae'r ddau ohonom ni wedi ymgyrchu, gydag eraill yn yr ystafell hon, am amser hir i wella hawliau plant ac rwyf wrth fy modd ein bod yn dal i weithio gyda'n gilydd i wireddu'r uchelgais hwn, ac felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei gyfraniad i'r ddadl hon.
A hefyd, yn bwysig, rhaid i mi ddiolch i aelodau grŵp cynghori'r Gweinidog am eu hymrwymiad i'r gwaith hwn. Mae'r grŵp yn elwa ar aelodaeth partneriaid cyflenwi gwasanaethau allweddol sydd, yn hael iawn, yn rhoi cyngor strategol i'r rhaglen waith ac yn craffu arni. Mae llawer o Aelodau hefyd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gyflawni ein rhaglen waith bellgyrhaeddol i wella canlyniadau i blant. Ac mae'n rhaid i mi, wrth gwrs, ddiolch i'n cyfranwyr allweddol, y plant a'r bobl ifanc sy'n ymwneud â'r gwaith hwn. Mae'r grŵp yn ffodus bod Dan Pitt yn is-gadeirydd. Mae gan Dan brofiad ei hun o fod mewn gofal ac mae wedi cynnig cipolwg gwerthfawr ar y ffordd y mae'r system wedi gweithio iddo yntau ac i eraill.
Mae'r adroddiad blynyddol yn disgrifio cryn dipyn o gynnydd a gweithgarwch. Mae'r rhaglen heriol yr ydym ni wedi'i gosod i'n hunain yn angenrheidiol ac rwy'n werthfawrogol iawn o gyfraniad pawb. Mae'r adroddiad yn ymateb i argymhelliad pwysig yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofynnodd am fanylion cyhoeddedig am waith y grŵp. Croesawaf waith craffu ar ein gwaith ac edrychaf ymlaen at unrhyw sylwadau neu awgrymiadau a ddaw yn sgil yr adroddiad hwn.
Mewn digwyddiad cenedlaethol dysgu cymheiriaid yn ddiweddar y mis diwethaf, roeddwn yn falch o lansio'r tudalennau gwella canlyniadau i blant a grŵp cynghori'r Gweinidog ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, gan ichi sôn am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? A diolch i chi am wneud hynny. Fel y gwyddoch chi, roedd hyn yn ddargyfeiriad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; nid dyma'r math o faes yr ydym ni'n ei ystyried fel arfer. Ond rwy'n credu, o'r hyn yr wyf wedi'i gasglu o siarad â rhai o'r bobl ifanc a gymerodd ran yn ein hymchwiliad, ei bod hi'n bwysig bod yr hen feddylfryd o weithio'n ynysig yn cael ei chwalu yn yr ardal hon a bod plant sydd â phrofiad o ofal yn effeithio ar bob portffolio, pob agwedd ar wariant Llywodraeth Cymru, ac felly gobeithio eich bod yn cytuno â mi ei bod hi'n dda bod pwyllgorau eraill, y tu allan i'r pwyllgor plant arferol, yn edrych ar y materion hyn.
Diolch i Nick Ramsay am yr ymyriad yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae plant sydd â phrofiad o ofal yn gyfrifoldeb i bob adran ac rwy'n credu ein bod yn awyddus iawn i fod mor gyhoeddus ac agored yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ganlyniad i adroddiad ei bwyllgor, ac rydym ni'n croesawu'r craffu yn fawr iawn, felly rwy'n diolch iddo am hynny.
Rwy'n siŵr eich bod chi wedi darllen yr adroddiad, ond dyma ychydig o uchafbwyntiau: fe wnaethom ni sefydlu gwasanaethau ar ffiniau gofal ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru; fe wnaethom ni gyflwyno'r rhaglen Adlewyrchu ledled Cymru, sy'n cefnogi'n ymarferol ac yn emosiynol, rhieni sydd â phlentyn wedi ei roi mewn gofal—credaf mai dyna un o'r mentrau mwyaf effeithiol yr ydym ni wedi'u cyflawni; cyflwyno deddfwriaeth i eithrio pawb sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor; a'n proses o sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi i helpu darparu cymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddyn nhw ddod yn oedolion ac yn annibynnol.
Fe wnaethom ni arbrofi gyda'r arolwg Bright Spots i ganfod beth sy'n bwysig i blant sydd â phrofiad o ofal ac i helpu dylanwadu ar welliannau yn y ffordd y darperir gwasanaethau. Rhoddodd yr arolwg hwn gipolwg gwerthfawr ac rydym ni bellach, yn rhan o'r fframwaith perfformiad a gwella newydd ar gyfer awdurdodau lleol, yn bwriadu cyflwyno dull newydd o weithredu o ran yr arolwg dinasyddion. Bydd yr arolwg yn casglu barn amrywiol plant am eu profiadau o ofal a chymorth, a bydd yn sicrhau awdurdodau lleol yn mynd ati'n frwd i geisio a defnyddio barn plant i ddylanwadu ar welliant a newid.
Rydym ni hefyd wedi dynodi amrywiaeth o waith ymchwil i fynd i'r afael â bylchau yn y dystiolaeth sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi darn pwysig o ymchwil am nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal gan rieni ag anabledd dysgu.
Rwyf hefyd yn falch o adrodd ein bod yn datblygu rhaglen waith yn ymwneud â rhianta corfforaethol, y mae David yn ei arwain. Mae a wnelo hyn â chryfhau cyfrifoldebau dros blant sy'n derbyn gofal ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Bydd fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn cofio trafodaeth ddiweddar yn y Cabinet am yr hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawslywodraethol a gafwyd. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Yn rhy aml, clywn am anghenion plant ag ymddygiad cymhleth a heriol iawn sydd heb eu diwallu. Rwy'n falch bod y grŵp gorchwyl a gorffen gofal preswyl i blant, is-grŵp o grŵp cynghori'r Gweinidog, wedi bod yn ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r gallu i ddiwallu anghenion y plant hyn. Yn ôl cyngor y grŵp gorchwyl a gorffen, rydym ar fin cychwyn ar ddarn o waith yn canolbwyntio ar ddatblygu dewisiadau ar gyfer y garfan fechan o blant nad oes modd diwallu eu hanghenion i gyd pan fyddant yn gleifion mewnol mewn llety iechyd meddwl neu fathau eraill o lety diogel yn unig.
Hyd yn oed yn yr hinsawdd ariannol heriol iawn sydd ohoni, rydym yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol i wella canlyniadau i blant. Yn ddiweddar iawn, rydym ni wedi rhoi £15 miliwn yn fwy i'r gronfa gofal integredig. Mae hwn yn ddyraniad blynyddol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi plant sydd ar ffiniau gofal i'w hatal rhag dod yn rhai sy'n derbyn gofal, yn ogystal â phrosiectau i roi cymorth i blant sy'n cael gofal a/neu sy'n cael eu mabwysiadu. Mae hyn yn ychwanegol at y gwariant o £659 miliwn yn gyffredinol gan awdurdodau lleol ar wasanaethau plant a theuluoedd.
Felly, rwy'n falch o'r cynnydd rydym ni'n ei wneud, ond nid wyf yn hunanfodlon. Mae ein hystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos inni fod nifer y plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yn dal i gynyddu. Yn 2018-19, cynyddodd y nifer 7 y cant eto, gan gyrraedd 6,846. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n gweithio i fynd i'r afael ag ef, a byddaf yn dweud mwy am hynny cyn bo hir. Ond, mae nodyn o optimistiaeth. Mae'n bwysig nodi, am yr ail flwyddyn yn olynol, bod nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal wedi gostwng. Rwy'n gobeithio ein bod ni nawr yn dechrau gweld canlyniadau'r buddsoddiad yn ein gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, a holl waith y grŵp y mae David yn ei gadeirio. Rwyf eisiau i'r duedd hon barhau—y duedd hon sy'n mynd ar i lawr. I wneud hyn, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wneud gwelliannau i'r system gyfan fel bod gwasanaethau'n cael eu darparu sy'n rhoi cymorth amserol a chynnar i deuluoedd er mwyn iddyn nhw, lle bynnag y bo'n bosib, gael cymorth i aros gyda'i gilydd.
Byddwch i gyd yn ymwybodol o ymrwymiad clir y Prif Weinidog i leihau nifer y plant sy'n cael eu symud o'u teuluoedd, sy'n cael eu lleoli y tu allan i'r sir a'r tu allan i Gymru, a'u cymryd gan rieni sydd ag anabledd dysgu. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i gyflawni hyn drwy weithio'n agos gyda phob awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog. O'r cychwyn cyntaf, a thrwy gydol y daith hon, rwyf wedi bod yn gwbl glir ein bod yn meithrin agwedd o ddiogelwch yn gyntaf yma yng Nghymru—nid oes dim byd yn drech na'r angen i amddiffyn plant.
Mae pob awdurdod lleol wedi cyflwyno cynlluniau ynghylch disgwyliadau lleihau sydd wedi'u teilwra i'w poblogaethau a'u demograffeg eu hunain, ac rydym ni'n y broses o dderbyn y diweddariadau chwarterol cyntaf. Rwyf yn cefnogi'r gwaith hwn yn frwd drwy gynnal sgyrsiau â phartneriaid sy'n gyfranwyr allweddol ac a all ddylanwadu ar ffordd o weithredu sy'n cynnwys y system gyfan, er enghraifft, Mr Ustus Francis, barnwr cyswllt â theuluoedd Cymru; Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru; a rhai arweinwyr cyngor. Rydym ni'n cael trafodaethau cynhyrchiol iawn gyda'r bobl hynny.
Mae'r digwyddiad cenedlaethol diweddar ar ddysgu a chymorth i gymheiriaid y soniais amdano'n gynharach wedi rhoi cyfle gwerthfawr i awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol ddod at ei gilydd a rhannu eu gwybodaeth a'u profiad mewn cysylltiad â phlant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys yr arferion da yn yr awdurdodau hynny sydd wedi llwyddo i wyrdroi'r duedd gyffredinol a lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal dros amser. Mae cyfle i barhau â'r trefniant hwn o ddysgu cymheiriaid. Ynghyd â'n partneriaid mewn llywodraeth leol, rydym yn awyddus i sefydlu rhwydwaith cefnogi cymheiriaid mwy ffurfiol er mwyn datblygu'r gwaith hwn. Yn y gynhadledd hon, fe'm trawyd yn llwyr gan y brwdfrydedd a'r penderfyniad ymhlith y bobl hynny yn yr ystafell i wneud eu gorau dros y plant y mae gennym y fraint o ofalu amdanyn nhw.
Cyn inni ddechrau'r ddadl, roeddwn eisiau dweud rhywbeth am y gwelliannau, yr wyf yn falch iawn o'u derbyn. Mae gwelliannau Rhun ap Iorwerth yn gwneud pwyntiau pwysig iawn am dlodi a chyni, ail-gydbwyso'r system o blaid dull ataliol a thargedau. Rwy'n credu bod toreth o dystiolaeth sy'n dangos yr effaith y mae tlodi a chyni yn eu cael ar blant a theuluoedd. Ond gwyddom hefyd y bu nifer y plant mewn gofal yn cynyddu ers o leiaf 10 mlynedd cyn i gyni ddechrau, felly mae ffactorau eraill hefyd, fel amrywiadau rhwng awdurdodau lleol o ran polisi ac arferion.
Mae'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol wedi'i gynllunio i helpu datblygu arfer a hwyluso'r broses o rannu dysg, fel y gallwn ni gyflawni ein hamcanion cyffredin i ostwng yn ddiogel nifer y plant mewn gofal.
O ran y system, mae ein holl fframwaith deddfwriaethol ac egwyddorion arweiniol y rhaglen gwella canlyniadau i blant yn ymwneud â symud cydbwysedd gofal tuag at ymyrraeth gynnar a dull ataliol. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud—ac rwy'n siŵr y byddwn yn cytuno—y dylem ni flaenoriaethu gwaith atgyweirio yn hytrach nag achub. Rydym ni wedi gweld, ers dwy flynedd yn olynol bellach, fel y dywedais yn gynharach, ostyngiad yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal, y gallwn ei gysylltu â'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud mewn gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar.
Ac yn olaf, o ran targedau, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi gweithio mewn ffordd gyd-gynhyrchiol gydag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol. Yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn gosod targedau gorfodol, mae awdurdodau lleol wedi cynnig eu strategaethau penodol eu hunain, ac nid oes unrhyw gynlluniau i gosbi os na chaiff y targedau a gynigir eu bodloni. Rwyf wedi gwneud hyn yn glir i awdurdodau lleol o'r dechrau. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig nodi bod Comisiynydd Plant Cymru wedi cydnabod yn ddiweddar ei bod hi'n gefnogol i ddull Llywodraeth Cymru o gynllunio a chyflawni'r gwaith hwn, ac mae wedi cydnabod ein hymagwedd o ddiogelwch yn gyntaf. Felly, rwy'n falch o dderbyn y tri gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Siân Gwenllian i gynnig y tri gwelliant a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr. Dwi'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf yma. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, fe ges i'r fraint o gadeirio panel rhiant corfforaethol Cyngor Gwynedd, a dwi'n cofio'n glir y dyletswyddau manwl sydd ar gynghorwyr sir i weithredu er lles plant mewn gofal yn unol â'r hyfforddiant pe byddai'n blentyn i mi, ac mae yna ddyletswydd arnom ni fel Aelodau Cynulliad i wneud yr un peth hefyd—i feddwl am anghenion pob plentyn mewn gofal, i roi anghenion y plentyn yng nghanol popeth rydym yn ei wneud, ac i ofalu bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed.
Mae'r niferoedd wedi cynyddu yn sylweddol. Mae'r darlun wedi newid hefyd ers fy nghyfnod i yng Nghyngor Gwynedd. Yn ôl gweithwyr proffesiynol yn y maes, mae newid sylweddol yn yr anghenion sydd yn amlygu eu hunain yn deillio o effaith blynyddoedd o dlodi, yn sgil llymder ac oherwydd newidiadau eraill mewn cymdeithas a materion newydd yn dod i sylw. Er enghraifft, county lines, ymddygiad rhywiol problemus ac anaddas, defnydd o gyfryngau cymdeithasol, cam-drin dros y we, ac yn y blaen. Yn hanesyddol, doedd rhain ddim yn ffactorau amlwg, ond maen nhw erbyn hyn.
Mae'r prif faterion sydd yn arwain at bobl ifanc yn eu harddegau yn dod i ofal yn codi oherwydd ymddygiad peryglus yn aml, pobl ifanc yn mynd ar goll, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, problemau ymddygiad a hunan-anafu. Y prif ffactor yw anghenion cymhleth oherwydd materion emosiynol ac iechyd meddwl nad ydyn nhw fel arfer yn cyrraedd meini prawf i dderbyn gwasanaeth CAMHS. A'r prif sialens yn yr achosion yma ydy dod o hyd i leoliadau addas ar eu cyfer sydd yn cyfarfod eu hanghenion cymhleth nhw, ac yn eu cadw nhw yn ddiogel.
Mae materion rhieni a gallu rhianta yn reswm arall amlwg. Mae gallu rhianta yn cael ei gyfaddawdu oherwydd problemau iechyd meddwl y rhieni, camddefnydd alcohol a chyffuriau, a phlant yn tystiolaethu trais yn eu cartrefi, lle mae hanes o gamdriniaeth rywiol. Mae cynnydd wedi bod flwyddyn ar flwyddyn yn y niferoedd o achosion cyn-geni sydd yn cael eu cyfeirio at yr awdurdodau, yn aml oherwydd fod gan y mamau blant sydd eisoes mewn gofal, oherwydd materion esgeulustod, camdriniaeth, cam-drin alcohol a chyffuriau, trais yn y cartref a'r sefyllfa heb newid, neu wedi cychwyn perthynas arall â'r un ffactorau yn bodoli. Ac yn aml iawn, ac yn y mwyafrif o achosion, nid dim ond un o'r ffactorau yma sydd yn achosi pryder a niwed i blant, ond cyfuniad o nifer ohonyn nhw. Rydw i yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y darlun yma ac i ystyried sut mae'r darlun yna'n newid yn gynyddol.
Fel roeddech chi'n sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru i greu cynlluniau i leihau'r niferoedd sydd mewn gofal, ac mae'r cynlluniau hynny i'w croesawu. Maen nhw'n gallu rhoi ffocws i'r gwasanaethau gan gydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd. Fel rydych chi'n gwybod ac fel rydych chi wedi cyfeirio ato fo, mae'r cynlluniau yma'n gosod targedau rhifyddol amrwd. Nid ydw i'n hollol siŵr y prynhawn yma a ydych chi'n dweud y bydd y targedau i awdurdodau lleol yn diflannu ynteu'r targed cenedlaethol fydd yn diflannu. Felly, rydw i'n credu, o beth rydych chi'n ei ddweud, y bydd yna'n dal angen i awdurdodau lleol i osod targedau rhifyddol. Buaswn i'n leicio jest cael ychydig bach o eglurder am hynny. Rydw i yn meddwl bod gosod targedau rhifyddol yn gam gwag ac yn un peryglus. Nid dyma ydy'r ffordd i leihau'r nifer o blant mewn gofal.
Mae gostwng y nifer yn gofyn am atebion cynhwysfawr. Mae'n bosib bod angen newidiadau i ddeddfwriaeth. Mae angen edrych ar y broses llysoedd; mae angen edrych ar sut mae kinship care yn wahanol yn yr Alban i sut mae o yng Nghymru; mae angen edrych ar leoliadau gyda rhieni ble mae plentyn yn byw gartref gyda rhieni ar orchymyn gofal ac efo cefnogaeth, ond mewn rhai ardaloedd, mae'r llysoedd yn gyndyn iawn o gytuno i hynny.
Yn sicr mae angen buddsoddiad mawr mewn gwasanaethau ataliol. Nid ydy grantiau byr dymor ddim yn ddigon i gynnal y gwasanaethau rheini. Felly, rydw i yn croesawu beth rydych chi'n ei ddweud a beth mae'r adroddiad yn ei ddweud, sef bod angen gwneud gwelliannau system gyfan er mwyn darparu gwasanaethau amserol a chynnar i deuluoedd fel eu bod nhw'n cael eu cefnogi i aros efo'i gilydd efo'r nod yn y pen draw i leihau nifer y plant yn y system ofal. Ond mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd gynlluniedig, hir dymor, gofalus, systematig, a rhaid cofio, yn anad dim, am anghenion a diogelwch y plentyn fel pe byddai'n blentyn i mi. Diolch.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei harweiniad a'i gwaith ac am gyfeirio ataf yn rhinwedd fy swydd yn gadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog? Ond a gaf i hefyd wedyn ddweud wrth Aelodau'n ffurfiol bod gennyf y diddordeb hwnnw gan ein bod ni'n trafod yr adroddiad blynyddol cyntaf? Rwyf wrth fy modd bod gennym ni adroddiad blynyddol a gwefan hefyd. Un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd y dylem ni fod ag wyneb mwy cyhoedd ac rwy'n falch iawn eu bod wedi dangos diddordeb yn ein gwaith—sy'n ddefnyddiol iawn—ac o ran atebolrwydd a thryloywder, mae'n welliant pendant, gan gynnwys peth data pwysig iawn, y byddaf yn cyfeirio ato mewn munud.
Mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn debycach i gynhadledd, a dweud y gwir. Mae rhwng 40 a 50 o aelodau. Nid wyf yn hollol siŵr faint sydd ym mhob cyfarfod, er bod yr ystafell fel arfer yn ymddangos yn eithaf llawn ac mae'n anodd syllu o ben y bwrdd cynadledda i weld yr holl aelodau. Ond yr hyn sy'n rhyfeddol yw sut mae'r aelodau'n gweithio gyda'i gilydd. Dydyn nhw ddim yn ailadrodd pwyntiau yn ddiog neu'n siarad er mwyn siarad. Mae'r grŵp yn gweithio fel tîm er ei fod yn ddigon mawr i gwmpasu'r holl bobl a sefydliadau, felly, sy'n ymwneud â darparu gofal i blant sy'n derbyn gofal.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r aelodau am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud, yn enwedig y rheini o'r amrywiol grwpiau gwirfoddol ac elusennol. Rwy'n ddiolchgar iawn i Dan Pitt, o Voices from Care, sy'n is-gadeirydd ac sy'n dod â'r mewnwelediad hwnnw sydd gan rywun sydd â phrofiad o fod mewn gofal; yn ogystal â Phil Evans, cyn-gyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol, sef y prif beiriannydd yn yr ystafell injan, rwy'n credu, ac mae wedi gwneud gwaith anferthol, anferthol; a swyddogion eithriadol yn eich adran, Julie, sydd wedi darparu cyngor mor fedrus ac sydd wedi esgor mewn difrif ar ganlyniadau o safon fel comisiwn y gofynnodd aelodau grŵp cynghori'r Gweinidog amdano.
Os edrychaf ar leihau niferoedd y plant mewn gofal yn ddiogel, mae'r Gweinidog eisoes wedi rhoi'r ffigurau, ac rydym ni wedi clywed gan Siân yr amrywiaeth o ffactorau sy'n effeithio ar hyn, ond mae'r nifer wedi cynyddu, ac nid yw hi bob amser yn glir pam mae'r nifer hwnnw'n cynyddu. Amddifadedd; sbardunau fel cam-drin domestig—a dylwn ddweud ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, mae'n ffactor pwysig iawn ac mae'n rhywbeth y mae angen ei gofio—dylanwad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond mae gwahaniaethau o ran polisi a gwahaniaethau mewn arfer hefyd, nid yn unig mewn awdurdodau lleol ond yn y llysoedd hefyd, sy'n cael effaith fawr ar y niferoedd yr ydym yn eu rhoi mewn gofal, er bod yr achosion hynny bellach yn dechrau lleihau, ond mae'r ffigur cronnus yn dal i godi. Ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n bwysig nodi bod nifer yr achosion wedi dechrau lleihau.
Credaf fod comisiwn Thomas wedi gwneud sylwadau diddorol iawn am gyfiawnder teuluol, ac mae angen inni ystyried hynny. Ond, ydych chi'n gwybod, ar ddiwedd y dydd, mai'r awdurdod lleol sy'n mynd i'r llys ac yn gofyn am orchymyn llys, neu orchymyn gofal? Felly, ni allwn ni ddim ond dweud ei fod yn broblem gyda'r llysoedd teulu, er, yn amlwg, maen nhw'n goruchwylio'r arfer hon mewn ffyrdd gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru.
Un o'r pethau yr ydym ni wedi'i wneud i geisio deall y gwahaniaethau hyn rhwng awdurdodau lleol yw cynnal ymchwiliad gwerthfawrogol. Felly, aethom i chwe awdurdod lleol ac edrych mewn gwirionedd ar yr hyn yr oeddent yn ei wneud i leihau niferoedd a gwasanaethau ataliol, gwasanaethau ar ffiniau gofal. Rydym ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr iawn yn hynny o beth.
Os trof at yr hyn y mae gwir angen inni ei gyflawni, rydym ni wastad wedi gwybod bod lleoliadau o ansawdd uchel yn allweddol i wasanaethau llwyddiannus. Mae lleoliadau sefydlog sy'n agos at y cartref yn wirioneddol bwysig, ond fel y dengys ein data yn yr adroddiad blynyddol, roedd y niferoedd a fu mewn tri lleoliad neu fwy yn 2017-18, roedd hynny yn 9.6 y cant o blant, ac eleni mae 9.2 y cant yn cael tri lleoliad neu fwy. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl ac mae angen inni sicrhau bod y ffigur hwnnw'n gostwng.
Os edrychwn ni ar gyrhaeddiad addysgol yng nghyfnod allweddol 2, caiff y dangosydd ei fodloni gan 60.2 y cant o blant, neu fe gafodd ei fodloni y llynedd. Eleni, mae hynny wedi gostwng ychydig i 58.3. Ond yng nghyfnod allweddol 4, pan fyddwn ni'n aml yn ymdrin â phlant ag anghenion mwy cymhleth, weithiau, a hefyd efallai eu bod wedi dod i'r system yn hwyrach, felly mae llawer o bwysau eraill ar sicrhau canlyniadau da, ond nid yw'r dangosydd hwnnw'n dda o gwbl mewn gwirionedd. Y rheini a'i cyflawnodd y llynedd, 9.5 y cant, ac eleni, ychydig o welliant sef 10.9 y cant. Felly, mae hynny'n rhywbeth i'n hatgoffa ni.
Os edrychaf ar bobl ifanc NEET, y rhai sy'n NEET ar ôl 12 mis, ar ôl gadael gofal, y llynedd, 48.6 y cant, eleni 46.5 y cant. Felly, unwaith eto, mae hwnnw'n ffigur mawr iawn. Mae awdurdodau lleol wedi gwella eu harferion wrth ddod yn debycach i fusnes teuluol a sicrhau eu bod yn gallu darparu llawer o'r cyfleoedd i'r rhai sy'n gadael gofal, ac mae hynny'n wirioneddol ddefnyddiol.
Ac rydym ni hefyd yn edrych ar dai. Nifer y bobl ifanc â phrofiad o ofal sydd wedi profi rhywfaint o ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oedd 11.5 y cant. Felly, mae hynny'n wirioneddol broblemus.
Nid oes gennyf ddigon o amser i edrych ar feysydd eraill y gwaith heblaw dweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at y grŵp gorchwyl a gorffen ar rianta corfforaethol. Un o'n tasgau yw creu term mwy trugarog, cariadus—fel y byddai Dan Pitt, ein his-gadeirydd yn ei ddweud—na 'rhianta corfforaethol '. Felly, os oes gan unrhyw un syniadau, anfonwch nhw ataf mewn e-bost. A bu llawer o arloesi hefyd. Soniodd Siân am ofal gan berthynas. Byddwn yn edrych ar y maes pwysig hwn yn fanwl. Cofrestri mabwysiadu newydd yn cael eu lansio, gweithredu'r strategaeth ar fframwaith maethu cenedlaethol, ac mae ein gofalwyr maeth mor bwysig. A dyna adroddiad 'Ffynnu' sy'n edrych ar gymorth emosiynol ac iechyd meddwl. Felly, mae llawer o bethau'n cael eu gwneud, a llawer i'w wneud eto.
Ond gadewch i mi orffen gyda'r ystadegyn hwn: mae 71 y cant o blant sydd â phrofiad o ofal yn dweud eu bod wedi cael canlyniadau cadarnhaol o'u gofal, ac mae hynny'n bwysig iawn i ni ei gofio. Mae bron i 20 mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad Syr Ronald Waterhouse 'Ar Goll Mewn Gofal', a bydd gennym ni gynhadledd yn y Pierhead y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol i goffáu'r adroddiad hwnnw ac mae ambell un ohonom ni yn y Siambr yn cofio'r dyddiau pan oeddem ni ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad cyntaf hwnnw, ac ym misoedd cyntaf ein gwaith yn edrych ar yr adroddiad hwnnw. Rhaid inni sicrhau nad oes neb ar goll mewn gofal, ac mae'n fraint cael cais, yn Aelod o'r wrthblaid, i gadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog, a diolchaf i'r Llywodraeth am y cyfle a roddwyd i mi a'r ffordd adeiladol y maen nhw wedi gweithio gyda grŵp cynghori'r Gweinidog. Diolch, Llywydd.
Rwy'n falch iawn o allu codi i wneud cyfraniad byr iawn i'r ddadl hon. Mae Siân Gwenllian eisoes wedi cyflwyno achos dros ein gwelliannau, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am eu derbyn, er, fel Siân, hoffwn ychydig mwy o eglurder ynghylch beth yn union y mae hynny'n ei olygu o ran targedau rhifiadol.
Rwy'n gwybod mor angerddol yw'r Dirprwy Weinidog dros yr achos hwn. Mae gennym ni hanes, yn mynd yn ôl i'r adeg pan oedd y ddwy ohonom ni'n gweithio i Barnardo's, ac roeddwn yn arbennig o falch o'i gweld yn cael y cyfrifoldeb hwn. Rwy'n ategu'r sylwadau a wnaeth am David Melding a'i ymrwymiadau. Cyfeiriodd David, wrth gwrs, at ein dyddiau yn craffu ar ganlyniadau adroddiad Waterhouse. Rwy'n credu ei fod yn amser anodd iawn i bob un ohonom ni, yn clywed pethau nad oeddem ni eisiau eu clywed a gweithredu arnyn nhw. Mae'r adroddiad hwn, rwy'n credu, ac yr wyf yn falch iawn o'i groesawu, yn dangos pa mor bell yr ydym ni wedi dod, ond mae hefyd yn dangos pa mor bell y mae'n rhaid i ni fynd o hyd.
Hoffwn wneud tri sylw byr iawn, ac, yn gyntaf, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n sicrhau bod yr holl waith yn y maes hwn yn seiliedig ar hawliau, drwy'r system gyfan, oherwydd weithiau gellir osgoi llawer o'r hyn sy'n mynd o'i le petaem yn deall fod hawliau gan y plant a'r bobl ifanc hyn. Mae gennym ni ddeddfwriaeth arloesol yn y maes yma, sef Mesur Hawliau Plant a Phobl ifanc (Cymru) 2011, er fy mod yn credu yr hoffai rhai ohonom ni ei weld yn cael ei ddiwygio a'i gryfhau. Hoffwn glywed gan y Gweinidog heddiw sut y mae'n sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r plant hyn yn deall beth mae'r dull hwnnw sy'n seiliedig ar hawliau yn ei olygu. O ran fy hun, mae gennyf waith achos a rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu nad yw hynny'n wir bob amser efallai; mae rhai anawsterau o hyd, er enghraifft, gyda'r ffordd y mae swyddogion CAFCASS yn gweithio gyda phobl ifanc yn y sefyllfaoedd hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o sicrwydd ar y mater hwnnw.
I ddychwelyd yn fyr at welliant 3 o'n heiddo, roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud na fyddai unrhyw fesurau cosbi ar gyfer awdurdodau lleol nad ydynt yn bodloni'r targedau y cytunwyd arnyn nhw. Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod y bûm i'n bryderus iawn ynghylch natur rhai o'r trafodaethau rhwng ei swyddogion a rhai awdurdodau lleol; efallai na fu cymaint o gydsyniad ynddynt ag yr oedd hi'n dymuno. Ond rwy'n falch iawn o glywed ganddi heddiw fod yr agenda, yn amlwg, wedi symud ymlaen, bod pethau'n llawer mwy cadarnhaol.
Ond rwy'n dal i bryderu, os ydych chi'n rhoi rhif ar unrhyw beth, ei fod yn hawdd ei gyflawni. Mae'n llawer haws cyflawni rhif nag ydyw i gyflawni mesuriad ansoddol. Hoffwn annog y Gweinidog heddiw i sicrhau na chaiff pwysau amhriodol ei roi ar awdurdodau lleol i gyrraedd y targed ac, yng nghyd-destun gwelliant 2 o'n heiddo, i sicrhau bod gennym yr ail-weithio hirdymor hwnnw ar adnoddau ar gyfer yr agenda ataliol y gwn ein bod i gyd yn ei chefnogi.
Yn olaf, roeddwn yn falch iawn o glywed gan David Melding am y cynnydd o ran yr agenda rhianta corfforaethol. Rwy'n cytuno ag ef, mae'n derm eithaf erchyll. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd grafu pen a gweld a allwn ni feddwl am rywbeth gwell. Ond rwy'n falch o glywed bod y gwaith yn mynd rhagddo, a gobeithiaf y gellir cyflymu hyn gyda'r bwriad o greu fframwaith deddfwriaethol cynhwysfawr, eang ei gwmpas sy'n mynd â rhianta corfforaethol y tu allan i awdurdodau lleol yn unig—neu beth bynnag y penderfynwn ei alw pan fyddwn yn meddwl am rywbeth gwell—ac yn rhoi grym deddfwriaethol go iawn iddo. Oherwydd er fy mod yn siŵr, yn y Siambr hon, bod consensws eang ynglŷn â phwysigrwydd y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein plant sy'n derbyn gofal, fel y dywed Siân, ein plant ni ydyn nhw hefyd—ein plant ni—nid yw hynny bob amser yn wir ym mhobman. Nid yw hyn bob amser yn cyrraedd brig agendâu pobl, ac, weithiau, bydd angen y fframwaith deddfwriaethol hwnnw arnom ni i sicrhau nad oes gwahaniaeth rhwng hawliau plentyn sy'n derbyn gofal mewn un rhan o Gymru a hawliau plentyn sy'n derbyn gofal mewn rhan arall.
Credaf y byddai'n deg dweud fod Cymru, yn yr 20 mlynedd diwethaf, wedi bod yn gyfrifol am waith arloesol yn ymwneud â hawliau plant sy'n derbyn gofal, ond, fel y dywedodd David a'r Dirprwy Weinidog, mae llawer i'w wneud o hyd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Siambr hon ac ar yn lleol i sicrhau bod yr agenda honno'n mynd rhagddi.
Yng Nghymru, wrth gwrs, y mae'r nifer mwyaf a gofnodwyd o blant sy'n derbyn gofal. Roedd 6,845 o blant ar 31 Mawrth eleni, cynnydd o 65 y cant ers 2003. Bu'r newid yn fwy dybryd fyth mewn rhai awdurdodau lleol penodol megis Ynys Môn, gyda chynnydd o 190 y cant, Torfaen 195 y cant, a 250 y cant yn sir Fynwy. At hynny, roedd gan Gaerdydd 380 yn fwy o blant yn derbyn gofal eleni, gan dynnu sylw at yr hyn sy'n parhau i fod yn duedd sy'n peri pryder yn ein cymunedau. Felly, nid yw'n syndod Dirprwy Weinidog, fy mod yn sicr yn diolch ichi am yr adroddiad a'r cyfle inni drafod hyn.
Daw hyn â mi at y flaenoriaeth gyntaf—gostwng yn ddiogel nifer y plant y mae angen gofal arnyn nhw. Er bod yr adroddiadau wedi ymchwilio i achos y cynnydd yn nifer y plant mewn gofal, nodir bod y niferoedd hyn yn dal i godi. Mae'n rhy gynnar i ddweud bod hyn er gwaethaf disgwyliadau is y Prif Weinidog. Ym mis Gorffennaf, gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad yn dweud mai dim ond 16 o awdurdodau lleol a oedd wedi gosod targedau i leihau eu poblogaeth sy'n derbyn gofal. Felly, tybed a yw'r awdurdodau eraill wedi gosod eu targedau eu hunain eto.
Rwy'n gwerthfawrogi'r uchelgais gadarnhaol, ond ar hyn o bryd rwy'n amau a gaiff ei chyflawni. Rhaid sicrhau bod gostyngiadau'n ddiogel, felly rwy'n croesawu'r camau i atgyfnerthu'r symudiadau tuag at yr agenda atal ac ymyrryd. Mae £15 miliwn wedi'i ddyrannu i ehangu'r gwasanaethau ataliol ac ymyrryd hyn drwy'r gronfa gofal integredig. Nawr, yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, mae effaith gyffredinol y gronfa o ran gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau yn parhau i fod yn aneglur, felly byddwn yn gwerthfawrogi rhywfaint o sicrwydd heddiw nad yw'r arian yn cael ei atal rhag cyflawni ei uchelgais cadarnhaol. Yn wir, rwy'n cytuno bod angen agenda sy'n bendant yn canolbwyntio mwy ar atal. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i alw am sefydlu llysoedd teuluol cyffuriau ac alcohol yma i helpu datrys problemau mewn teuluoedd sydd mewn perygl o golli eu plant.
Mae arnom ni hefyd angen mwy o gefnogaeth i wasanaethau plant, h.y. ein hadrannau, sydd â rhai pobl wych yn gweithio ar y rheng flaen, sydd eisiau cefnogi teuluoedd ac sy'n dymuno cefnogi'r plant hyn. Er enghraifft, mae fy awdurdod i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi gweld cynnydd o 23 y cant yn nifer y plant sy'n derbyn gofal ers 2016, a disgwylir y bydd adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gwario £2.25 miliwn yn ormod yn y flwyddyn ariannol hon. Yn y tymor byr, mae awdurdodau lleol fel Conwy yn haeddu cymorth ariannol brys lle gellir profi mewn gwirionedd bod straen ariannol ychwanegol oherwydd y nifer cynyddol o achosion a chymhlethdod y sefyllfa.
Mae ysgolion hefyd yn darparu cymorth i blant sy'n derbyn gofal. Fodd bynnag, yn anffodus gostyngodd canran y plant a gyflawnodd y dangosydd pynciau craidd yng nghyfnod allweddol 2 i 58.3 y cant yn 2018-19. Mae gennym ni'r grant datblygu disgyblion ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad, ond mae'n debyg mai'r cwestiwn a fyddai gennyf yw bod angen i ni weld pa mor effeithiol yw hyn o ran helpu gyda'r agenda gyfunol hon. Canfu'r adroddiad 'Cyllido Ysgolion yng Nghymru' fod y grant datblygu disgyblion wedi cael ei ddefnyddio, mewn rhai achosion, i ychwanegu at y cyllid craidd a'i gryfhau. Ni all hynny fod yn iawn. Yn yr un modd, nodir bod £15 miliwn wedi cael ei ddarparu i ddatblygu gwasanaethau therapiwtig, ond faint o wahaniaeth y mae hyn yn ei wneud? Mae bron i 100 o blant o'r gogledd wedi cael eu hanfon allan o'r rhanbarth am driniaeth iechyd meddwl yn y pedair blynedd diwethaf. Mae'r adroddiad yn nodi ei bod hi'n anodd cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir oherwydd trothwyon ar gyfer gwasanaethau arbenigol, felly hoffwn weld rhywfaint o gynnydd, gan weithio gyda'r Dirprwy Weinidog ynghylch hyn. Yn yr un modd, mae angen newid cadarnhaol yn sgil y canfyddiad brawychus ei bod hi'n mynd yn anos paru plant â lleoliadau priodol: cafodd 9.2 y cant o blant dri neu fwy o leoliadau yn 2018-19.
Aeth blwyddyn heibio bellach ers i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus argymell dull strategol cenedlaethol o gomisiynu lleoliadau. Felly, mae'n bryd i ni gyflawni hyn mewn gwirionedd. Yn sicr, rwy'n croesawu'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw, a'r gwaith da y mae'n ei amlinellu, ond gobeithiaf ei fod wedi dangos bod angen gwneud mwy i sicrhau ein bod yn atal yn ddiogel. Rydym ni eisiau gweld yr holl gymorth y bwriedir ei roi yn cyrraedd ein plant sy'n derbyn gofal ac mae angen i bob un ohonom ni wneud mwy i helpu'r gwasanaethau rheng flaen y dibynnwn mor drwm arnyn nhw i helpu ein pobl ifanc mewn gofal. Diolch.
Yn gyffredinol rwy'n cefnogi safbwynt y Llywodraeth ar hyn, a'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, a byrdwn yr adroddiad hefyd, ond mae angen camau gweithredu arnom ni, yn hytrach na geiriau. Os edrychwch chi ar dudalen 20 yr adroddiad, mae'n sôn am ddiffyg darpariaeth argyfwng. Wel, sut gellir cael diffyg darpariaeth argyfwng ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yma? Ar dudalen 6, mae'n dweud nad oes neb yn gwrando ar bobl ifanc.
Mae gennyf adroddiadau bod rhai plant wedi cael eu bygwth petaen nhw'n ceisio mynd yn ôl at eu rhieni, y bydden nhw'n cael eu symud allan o'r sir—'Edrychwch beth ddigwyddodd i'ch brawd, bydd hynny'n digwydd i chi, oni bai eich bod yn byhafio.' Dyna adborth gan un teulu, ac mae popeth y maen nhw wedi'i ddweud wrthyf i yn digwydd bod yn hollol gywir hefyd.
Mae un o bob pedwar plentyn eisiau mwy o gyswllt â'i rieni. Pam nad ydyn nhw'n cael hynny? Pam nad yw'r niwed emosiynol a achosir i'r plant hynny o ganlyniad i beidio â chael gweld eu rhieni'n cael ei ystyried? Pam mae gweithwyr cymdeithasol yn ymddwyn fel y brawd mawr, bron—rhai gweithwyr cymdeithasol, nid pob un—wrth atal cyswllt pan fydd plant eisiau hynny'n daer? Pam mae un o bob tri o blant yn cwyno oherwydd nad ydyn nhw'n cael digon o amser gyda brodyr a chwiorydd pan fydd plant mewn rhai achosion yn cael eu cymryd i ffwrdd ar gam, wedi'u gwahanu ar gam gan y system doredig hon? Nid yw'r mathau hyn o adroddiadau'n mynd i'r afael â phroblemau. Dylai gwasanaethau plant gael eu troi wyneb i waered. Dylid bod diwygio o’r bôn i’r brig—diwygio absoliwt a thrylwyr.
Beth sy'n digwydd i'r plant hyn ar ôl iddyn nhw droi'n 18 oed? Beth yw'r gwir ganlyniadau? A pham mae—? Unwaith eto, rydym ni'n ôl at y plant nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Mae yna blentyn mewn gofal sy'n honni iddo gael ei gamdrin, ac rwyf wedi cael llawer o broblemau oherwydd y bûm yn cefnogi'r plentyn hwnnw a theulu'r plentyn. Gymaint felly, rwyf gerbron yr ombwdsmon eto yn rhinwedd fy swydd yn gynghorydd. Byddaf yn datgan buddiant yn hynny o beth. Felly, yn hytrach na'r honiadau o gamdriniaeth yn cael eu hystyried, mae'n haws cwyno am y cynghorydd sy'n codi stŵr. A dyna beth sy'n digwydd yn y ddinas hon. Mae'n digwydd i mi. A Duw a ŵyr beth sydd wedi digwydd i'r plentyn hwnnw.
Oherwydd, wyddoch chi beth? Fe ddywedaf hyn yn ein Senedd Genedlaethol: rwyf wedi bod yn ceisio cael cyfarfod gydag uwch swyddog Heddlu De Cymru ers mis Gorffennaf diwethaf. Rydym ni wedi bod yn gohebu, rwyf wedi ysgrifennu at y prif gwnstabl. Mae plentyn yn honni ei fod yn cael ei gam-drin, rwy'n galw am wasanaeth lles, ac rwy'n cael gwybod bod yr heddlu'n cyrraedd am 2 y bore, yn codi'r plentyn o'i wely, gyda'r camdriniwr honedig yn dal i fod ar y safle. Gwarthus. Ac ni allaf gyfarfod â'r bobl hyn. Mae wedi torri—mae'r system wedi torri. A phwy bynnag sy'n sefyll yn etholiadau comisiynydd yr heddlu y flwyddyn nesaf—mae'r rhain yn faterion y byddaf yn eu gwthio yn yr ymgyrch honno.
Rwyf eisiau siarad am, o'r diwedd nawr—mae llawer o gefnogaeth yn y Siambr hon i hawliau menywod. Wel, rwy'n gofyn nawr: beth am hawliau mamau yn ogystal â'r plant hyn? Nifer y rhieni, nifer y mamau yr wyf wedi cwrdd â nhw ac eistedd gyda nhw a siarad â nhw sydd wedi cael eu dinistrio'n llwyr gan y system. Maen nhw wedi colli eu plant, mae eu plant wedi cael eu mabwysiadu, mae brodyr a chwiorydd wedi cael eu gwahanu. Mae menyw Gatholig yr wyf yn ei hadnabod wedi cael erthyliad gan fod ei phlentyn newydd yn mynd i gael ei roi mewn gofal. Wyddoch chi beth? Y cyfan sydd ei angen ar y fam yw cefnogaeth—cefnogaeth. Mae yna fam arall y cyfarfûm â hi ychydig o wythnosau'n ôl—cawsom sgwrs, ac roedd yn amlwg ei bod yn dioddef o PTSD, anhwylder straen wedi trawma, yn sgil colli ei phlentyn. A wyddoch chi beth? Dim cwnsela i'r fam, dim cefnogaeth. 'Wedi colli plentyn? I ffwrdd â chi.' Gwarthus.
Felly, yn ogystal â thrafod rhoi llai o blant mewn gofal, a chefnogaf hynny'n llwyr—rwy'n llwyr gefnogi cyfeiriad y Llywodraeth yn hyn o beth, heblaw fy mod eisiau gweld canlyniadau a gweithredoedd—gadewch inni roi sylw hefyd i'r mamau hyn sy'n colli eu plant, yn fy marn i, mewn rhai amgylchiadau, yn anghyfiawn, oherwydd y cyfan y mae arnyn nhw ei angen yw cymorth. Efallai y dylen nhw ymddangos yn yr adroddiad hwn a dylent gael y gefnogaeth gan y system nad ydynt yn ei chael, oherwydd pe baen nhw'n cael hynny, byddai gennym ni i gyd ganlyniadau gwell ar gyfer ein cymdeithas yn y dyfodol.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl—Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr iawn i bawb, am y cyfraniadau a wnaethoch chi. Rwy'n gwybod y caiff pob un ohonom ni ein cymhell i wneud cymaint ag y gallwn ni i gefnogi plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel gyda'u teuluoedd, a lle nad yw hynny'n bosib, i gael profiad cadarnhaol o'r system gofal. Rwy'n gobeithio bod pob un ohonoch chi'n cytuno bod yr adroddiad blynyddol yn egluro popeth yr ydym ni wedi'i gyflawni, a'i fod yn rhoi disgrifiad da o'r hyn rydym yn ei wneud nesaf.
Nawr, i ateb rhai o'r cwestiynau penodol sydd wedi codi, o ran targedau, rydym wedi'u codi yma droeon, mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sydd yn eu gofal. Nid yw pedwar ohonyn nhw wedi llunio targed rhifiadol, ond maen nhw i gyd yn ymrwymedig i agenda'r Prif Weinidog ac maen nhw eisiau cael llai o blant mewn gofal. Rwyf eisiau pwysleisio eto ein bod eisiau mynd i'r afael â hyn o safbwynt diogelwch yn gyntaf, ac ni allaf ailadrodd hynny ddigon—na fyddem eisiau i neb wneud unrhyw beth nad oedd er budd gorau'r plentyn, a bod yr holl awdurdodau lleol yn gwybod hynny, ac maen nhw eu hunain wedi cyflwyno'r ffigurau. Felly, nid ydym yn cael targedau sy'n gorfodi—i ateb y cwestiynau penodol gan Aelodau Plaid—nid ydym yn cael targedau sy'n gorfodi; rydym yn gweithio'n gyd-gynhyrchiol â'r awdurdodau lleol, mae'r awdurdodau lleol yn llunio'r targedau, nid oes sancsiynau, ac rydym yn ceisio gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r agenda hon am ein bod wedi cael nifer o adroddiadau, rydym wedi ceisio ymdrin â'r polisi hwn, y materion hyn, ers blynyddoedd lawer, ac nid ydym ni wedi cael unrhyw ganlyniadau. Yn wir, mae pethau wedi gwaethygu, ac rwy'n credu ein bod wedi clywed heddiw sut y mae'r niferoedd yn codi. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhoi sylw i'r agenda hon, a dyna yr ydym yn ei wneud, mewn modd sy'n cyd-gynhyrchiol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb yr ymholiadau, ac, wrth gwrs, rydym yn derbyn y gwelliannau.
Yna'r mater arall, wrth gwrs, yw ein bod eisiau i lai o blant fod mewn gofal. Rydym yn gweithredu i roi cymaint o gymorth ag y gallwn ni i atal, ac mae hynny wedi'i grybwyll yma sawl gwaith heddiw. Y dull o weithredu sy'n seiliedig ar hawliau—rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar hawliau, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn parhau i weithio tuag ato. Rwy'n gwybod, gyda grŵp cynghori'r Gweinidog, y caiff y dull sy'n seiliedig ar hawliau ei ddefnyddio er mwyn sicrhau ein bod yn ymdrin â'n holl waith yn y ffordd honno, felly rwyf eisiau ailadrodd ein bod yn defnyddio mesurau sy'n seiliedig ar hawliau.
Rwy'n gwybod bod yr hyn a ddywed yr Arglwydd Thomas yn ddiddorol dros ben o ran ei drafodaethau ynghylch plant, ac rwy'n gwybod bod Janet Finch-Saunders wedi codi'r mater o lysoedd cyffuriau ac alcohol, y mae yntau wedi sôn amdanynt, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried ac yn ei drafod eto, ond mae ei gynigion yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu'n fawr iawn, a byddwn yn edrych ar hynny.
Felly, i gloi, rwyf eisiau gorffen, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i David am yr holl waith a wnaethpwyd ar y grŵp hwnnw, ac i ddiolch iddo am ddweud wrth y Siambr pa fath o faterion rydych yn rhoi sylw iddynt. Mae gwaith David yn seiliedig ar wrando ar blant, ac rwy'n credu bod y materion hynny wedi codi ynghylch cyfranogiad plant. Roeddwn yn falch iawn ein bod, yr wythnos diwethaf, ar 20 Tachwedd, wedi gallu dathlu 30 mlynedd ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a gwnaethom hynny drwy wrando ar yr hyn a ddywedodd pobl ifanc, a thrwy weld pobl ifanc yn ymuno ac yn trafod ac yn dweud beth roedden nhw ei eisiau. Credaf fod honno'n enghraifft wirioneddol wych o sicrhau y caiff lleisiau pobl ifanc eu clywed. Felly, dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un fod ar goll mewn gofal, ac rydym ni eisiau i bawb feddwl am air arall ar wahân i 'rianta corfforaethol'. Felly, diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem, felly, tan y cyfnod pleidleisio.