Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr. Dwi'n croesawu'n fawr cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf yma. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir, fe ges i'r fraint o gadeirio panel rhiant corfforaethol Cyngor Gwynedd, a dwi'n cofio'n glir y dyletswyddau manwl sydd ar gynghorwyr sir i weithredu er lles plant mewn gofal yn unol â'r hyfforddiant pe byddai'n blentyn i mi, ac mae yna ddyletswydd arnom ni fel Aelodau Cynulliad i wneud yr un peth hefyd—i feddwl am anghenion pob plentyn mewn gofal, i roi anghenion y plentyn yng nghanol popeth rydym yn ei wneud, ac i ofalu bod eu lleisiau nhw yn cael eu clywed.
Mae'r niferoedd wedi cynyddu yn sylweddol. Mae'r darlun wedi newid hefyd ers fy nghyfnod i yng Nghyngor Gwynedd. Yn ôl gweithwyr proffesiynol yn y maes, mae newid sylweddol yn yr anghenion sydd yn amlygu eu hunain yn deillio o effaith blynyddoedd o dlodi, yn sgil llymder ac oherwydd newidiadau eraill mewn cymdeithas a materion newydd yn dod i sylw. Er enghraifft, county lines, ymddygiad rhywiol problemus ac anaddas, defnydd o gyfryngau cymdeithasol, cam-drin dros y we, ac yn y blaen. Yn hanesyddol, doedd rhain ddim yn ffactorau amlwg, ond maen nhw erbyn hyn.
Mae'r prif faterion sydd yn arwain at bobl ifanc yn eu harddegau yn dod i ofal yn codi oherwydd ymddygiad peryglus yn aml, pobl ifanc yn mynd ar goll, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, problemau ymddygiad a hunan-anafu. Y prif ffactor yw anghenion cymhleth oherwydd materion emosiynol ac iechyd meddwl nad ydyn nhw fel arfer yn cyrraedd meini prawf i dderbyn gwasanaeth CAMHS. A'r prif sialens yn yr achosion yma ydy dod o hyd i leoliadau addas ar eu cyfer sydd yn cyfarfod eu hanghenion cymhleth nhw, ac yn eu cadw nhw yn ddiogel.
Mae materion rhieni a gallu rhianta yn reswm arall amlwg. Mae gallu rhianta yn cael ei gyfaddawdu oherwydd problemau iechyd meddwl y rhieni, camddefnydd alcohol a chyffuriau, a phlant yn tystiolaethu trais yn eu cartrefi, lle mae hanes o gamdriniaeth rywiol. Mae cynnydd wedi bod flwyddyn ar flwyddyn yn y niferoedd o achosion cyn-geni sydd yn cael eu cyfeirio at yr awdurdodau, yn aml oherwydd fod gan y mamau blant sydd eisoes mewn gofal, oherwydd materion esgeulustod, camdriniaeth, cam-drin alcohol a chyffuriau, trais yn y cartref a'r sefyllfa heb newid, neu wedi cychwyn perthynas arall â'r un ffactorau yn bodoli. Ac yn aml iawn, ac yn y mwyafrif o achosion, nid dim ond un o'r ffactorau yma sydd yn achosi pryder a niwed i blant, ond cyfuniad o nifer ohonyn nhw. Rydw i yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y darlun yma ac i ystyried sut mae'r darlun yna'n newid yn gynyddol.
Fel roeddech chi'n sôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru i greu cynlluniau i leihau'r niferoedd sydd mewn gofal, ac mae'r cynlluniau hynny i'w croesawu. Maen nhw'n gallu rhoi ffocws i'r gwasanaethau gan gydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd. Fel rydych chi'n gwybod ac fel rydych chi wedi cyfeirio ato fo, mae'r cynlluniau yma'n gosod targedau rhifyddol amrwd. Nid ydw i'n hollol siŵr y prynhawn yma a ydych chi'n dweud y bydd y targedau i awdurdodau lleol yn diflannu ynteu'r targed cenedlaethol fydd yn diflannu. Felly, rydw i'n credu, o beth rydych chi'n ei ddweud, y bydd yna'n dal angen i awdurdodau lleol i osod targedau rhifyddol. Buaswn i'n leicio jest cael ychydig bach o eglurder am hynny. Rydw i yn meddwl bod gosod targedau rhifyddol yn gam gwag ac yn un peryglus. Nid dyma ydy'r ffordd i leihau'r nifer o blant mewn gofal.
Mae gostwng y nifer yn gofyn am atebion cynhwysfawr. Mae'n bosib bod angen newidiadau i ddeddfwriaeth. Mae angen edrych ar y broses llysoedd; mae angen edrych ar sut mae kinship care yn wahanol yn yr Alban i sut mae o yng Nghymru; mae angen edrych ar leoliadau gyda rhieni ble mae plentyn yn byw gartref gyda rhieni ar orchymyn gofal ac efo cefnogaeth, ond mewn rhai ardaloedd, mae'r llysoedd yn gyndyn iawn o gytuno i hynny.
Yn sicr mae angen buddsoddiad mawr mewn gwasanaethau ataliol. Nid ydy grantiau byr dymor ddim yn ddigon i gynnal y gwasanaethau rheini. Felly, rydw i yn croesawu beth rydych chi'n ei ddweud a beth mae'r adroddiad yn ei ddweud, sef bod angen gwneud gwelliannau system gyfan er mwyn darparu gwasanaethau amserol a chynnar i deuluoedd fel eu bod nhw'n cael eu cefnogi i aros efo'i gilydd efo'r nod yn y pen draw i leihau nifer y plant yn y system ofal. Ond mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd gynlluniedig, hir dymor, gofalus, systematig, a rhaid cofio, yn anad dim, am anghenion a diogelwch y plentyn fel pe byddai'n blentyn i mi. Diolch.