Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio, a dwi'n symud yn syth, felly, i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig yna.