– Senedd Cymru am 5:44 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Daw hyn â ni at y cyfnod pleidleisio, a dwi'n symud yn syth, felly, i'r bleidlais gyntaf. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2019. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, pedwar yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig yna.
Mae'r bleidlais nesaf ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 42, saith yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Y bleidlais nesaf yw'r cynnig ar gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, wyth yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Mae'r pleidleisiau nesaf ar adroddiad blynyddol gwella canlyniadau i blant, a dwi'n galw yn gyntaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 3 yw'r bleidlais nesaf. Galw felly am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, naw yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 3.
Y bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Cynnig NDM7197 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant.
2. Yn cydnabod bod y cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn deillio o nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys llymder a thlodi rhwng y cenedlaethau.
3. Yn galw am aildrefnu'r system i ganolbwyntio adnoddau ar atal er mwyn amddiffyn plant a gwella eu canlyniadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi defnyddio targedau caeth i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, naw yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly derbyniwyd y cynnig.
A dyna ddiwedd ar ein trafodion am y dydd.