Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Mae rhai o fy etholwyr i wedi bod yn fy ngweld i'n ddiweddar i sôn am gynllun cyffrous i greu canolfan amgylcheddol arbennig yn Eryri. Nod y Ganolfan Ryngwladol Adnoddau Daear ydy defnyddio'r ymchwil wyddonol ddiweddaraf i helpu cynulleidfaoedd i ddeall effaith pobl ar y byd a pha gamau y gallwn ni eu cymryd. Ond mae'n ymddangos bod arafwch ymateb eich Llywodraeth chi'n dal pethau'n ôl. Mae yna safle addas wedi'i hadnabod yng Nglynrhonwy ger Llanberis ac mae yna gynllun busnes, rhaglen waith a gwaith dichonoldeb wedi cael eu cwblhau. Mi rydw i wedi ysgrifennu at Ken Skates a hefyd at Lesley Griffiths, ond dwi ddim wedi derbyn ymateb cyn belled. Yr honiad ydy y gall y project ddod ag o leiaf 100 o swyddi i'r ardal. Buaswn i'n ddiolchgar felly tasech chi'n cymryd diddordeb personol yn y mater yma ac yn gofyn i'r ddau Weinidog i gyd-drafod ac i ymateb yn briodol. Mi fyddai'n drueni mawr i ogledd Cymru golli'r cyfle unigryw yma oherwydd diffyg diddordeb gan Lywodraeth Cymru.
Ac yn ail, wrth droi at faes iechyd, yn anffodus mae un arall o feddygfeydd teulu fy etholaeth i yn cau. Ar ôl nifer o flynyddoedd o wasanaeth i unigolion a chleifion Penygroes, mae meddygon Llys Meddyg wedi rhoi rhybudd y byddan nhw yn dod â'u cytundeb efo'r bwrdd iechyd i ddarparu gwasanaethau meddyg teulu i ben ym mis Ebrill 2020. Mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod nhw'n gweithio'n agos efo'r practis a meddygon teulu lleol eraill i gynllunio sut bydd cleifion yn parhau i gael y gwasanaethau angenrheidiol o'r gwanwyn nesaf ymlaen. Mae yna gynllun ar droed yn Nyffryn Nantlle ar gyfer canolfan iechyd newydd i'r ardal, ac felly hoffwn ofyn i'ch Llywodraeth chi ddod â'r project yma ymlaen yn ddi-oed er lles holl etholwyr Dyffryn Nantlle. Mi fyddai arweiniad gennych chi i gymryd hwn ymlaen yn syth yn gallu diogelu a datblygu gwasanaethau i'r dyfodol.