Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Yn sicr, gallaf i roi'r ymrwymiad hwnnw ichi y byddaf i'n cysylltu â Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig a Gweinidog yr economi i sicrhau ymateb ar fater y ddaear ryngwladol—ni allaf ddarllen fy ysgrifen—ar y ganolfan yr ydych chi wedi'i disgrifio yn eich cyfraniad heddiw.
Ac o ran y meddygfeydd teulu, a'r potensial ar gyfer cyfleuster newydd, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog iechyd archwilio gyda'r Bwrdd Iechyd beth yw'r diweddaraf ar hynny, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi.FootnoteLink