Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Wel, diolch yn fawr i chi. Yn gyntaf oll, i ymdrin ag un o'r pwyntiau olaf ynglŷn â'r cymorth a gaiff ei gynnig, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, fe fydd yr Aelodau yn cofio mai rhan o fudiad cymdeithas sifil oedd y mudiad a oedd wrth wraidd yr agenda polisi hwn yn y Cynulliad. Fe ddaeth yr ysgogiad o'r prifysgolion, o'r trydydd sector, ac o sefydliadau busnes, yn ogystal ag o ymdrech drawsbleidiol, ac rwyf i'n gwerthfawrogi hynny ac yn gobeithio y gallwn ni gadw at hynny. Felly rwy'n croesawu ei gefnogaeth ef i gysyniad hyn.