8. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 26 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:05, 26 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Mae pedair elfen y Bil yn gwneud cam ymlaen tuag at wella a chefnogi ansawdd gwell, gweithio mwy integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a gwella ymgysylltu â dinasyddion. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu ar y Bil hyd yn hyn, ac am eu hargymhellion. Ond, yn benodol, rwyf eisiau diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil a nodir yn eu hadroddiad.

Rwyf eisiau troi nawr i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgorau. Yn gyntaf, mae'r pwyllgor iechyd yn argymell y dylid cael canllawiau statudol ar ddyletswydd ansawdd. Nawr, rwyf eisoes wedi nodi y byddai canllawiau ar y ddyletswydd. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y byddai ei wneud yn statudol yn ychwanegu at y pwyslais, a byddaf yn cyflwyno gwelliant i wneud hynny.

Mae nifer o argymhellion ynghylch manylion y ddyletswydd ansawdd, beth ddylai pwyslais y ddyletswydd fod a sut y dylid ei weithredu. Unwaith eto, rwyf wedi bod yn glir byddai llawer o'r rhain, yn fy marn i, yn cael eu trin yn well yn y canllawiau, ac rwyf bellach yn cynnig gwneud rheini'n statudol, yn hytrach na chael rhestr hir ar wyneb y Bil. Dylai'r dull hwn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i'r holl faterion hynny sy'n fodd o gyflawni'r ddyletswydd. Byddwn mewn gwell sefyllfa i ddisgrifio amrywiaeth o amgylchiadau mewn ffordd enghreifftiol a bod yn llawer cliriach ynghylch yr hyn a olygir wrth wahanol amgylchiadau.

O ran y dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd, byddwn yn disgrifio ac yn esbonio yn y canllawiau statudol beth fydd canlyniadau diffyg cydymffurfio. Mae angen i ni sicrhau cydbwysedd rhwng eglurder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd os nad yw sefydliad yn cydymffurfio â'r ddyletswydd a'r gallu i weithredu'n briodol a chymesur. Hoffwn feddwl am yr amgylchiadau, ac, yn bwysig, sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu a gwella.

Wrth gwrs, bu cryn ddiddordeb yn y cynigion sy'n ymwneud â chorff newydd llais y dinesydd, gyda nifer o argymhellion, yn fwyaf nodedig ynglŷn â rhoi hawl i'r corff allu ymweld â safleoedd y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; sicrhau nad yw'r corff yn gorff cenedlaethol anghysbell sy'n anhygyrch ac nad yw'n gallu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru gyfan; a gofyniad bod cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn ymateb i sylwadau a gyflwynir gan y corff hwnnw.

Rwy'n cytuno bod angen i'r corff allu ceisio barn pobl ar yr adeg y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Credaf mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy god ymarfer o ran ymweld â safleoedd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o brif fanteision y dull gweithredu hwn yw ei hyblygrwydd i fod yn berthnasol i'r amrywiaeth enfawr o leoliadau lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Darperir mathau tra gwahanol o ofal, cymorth a thriniaeth yn y lleoliadau hyn, sy'n ymateb i anghenion a dymuniadau unigolion.

Mae'r cod hefyd yn elwa ar fod yn ddogfen fyw, sy'n gallu ymateb i newidiadau mewn arferion a phrofiad pobl o ddefnyddio'r cod. Bydd yn cynnwys y pwyslais angenrheidiol i sicrhau bod pob parti yn cyflawni ei gyfrifoldebau priodol. Wrth gwrs, bydd yn destun ymgysylltu ac ymgynghori wrth ei baratoi er mwyn sicrhau ei fod, fel dogfen, yn addas i'r diben a bod pawb y bydd angen iddynt ei ddefnyddio yn ei ddeall yn glir. Rydym ni wedi mynd ati fel hyn wrth ddatblygu a chyhoeddi codau ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016, ac rwy'n credu mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o symud ymlaen gyda hyn mewn golwg.

Cytunaf hefyd fod angen i'r corff newydd allu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru a bod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru, felly byddaf yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r pryder ynghylch gallu'r corff i gynrychioli pobl o Gymru benbaladr ac o ran ymweld â safleoedd.

Nodaf sylwadau'r pwyllgor iechyd ar y sylwadau y bydd corff llais y dinesydd yn eu cyflwyno a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau nid yn unig fod rhywun yn gwrando arnynt, ond y gall y corff a'r cyhoedd weld bod rhywun yn gwrando arnynt. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid cynnwys ar wyneb y Bil gofyniad i roi sylw i sylwadau a gyflwynir. Nawr, rwy'n credu bod y geiriad presennol eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol roi sylw i sylwadau, ac mae hynny o bwys mawr. Fodd bynnag, rwyf wedi ystyried yr hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol eto ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.

Unwaith eto, ar ôl gwrando ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ar y pwnc, mae'n amlwg y bydd angen i gorff llais y dinesydd gael gwybod yn gyson sut mae awdurdod cyhoeddus yn ymdrin â'i sylwadau, ac, yn bwysig, canlyniad y sylwadau hynny. Bydd cyhoeddi canllawiau statudol yn ein galluogi i ddisgrifio sut y dylai hyn ddigwydd mewn ffordd gymesur sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o sylwadau y gellir eu cyflwyno.

Rwyf wedi darllen yr hyn sydd gan y pwyllgor iechyd i'w ddweud am annibyniaeth y corff newydd, yn ogystal â pheth o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lunio barn. Mae angen inni fod yn glir wrth sôn am benodi aelodau—mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru benodi aelodau bwrdd y corff newydd. Wrth benodi aelodau'r bwrdd rhaid cadw at reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gofyn am gystadleuaeth agored a theg am swyddi. Er hynny, dywedais yn ystod fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor iechyd fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam ychwanegol i randdeiliaid yn y broses benodi.

Yn wahanol i'r sefyllfa bresennol gyda chynghorau iechyd cymuned, lle mae Gweinidogion Cymru yn penodi 50 y cant o'r aelodau gwirfoddol, o dan y trefniadau newydd yn y Bil, bydd corff llais y dinesydd ei hun yn gallu recriwtio ei holl wirfoddolwyr yn uniongyrchol, sy'n cynyddu yn hytrach na lleihau ei annibyniaeth ar y Llywodraeth. Mae digon o fesurau diogelu ar wyneb y Bil hefyd i sicrhau bod y corff yn annibynnol ar y Llywodraeth, megis gofyniad i gynhyrchu cynllun blynyddol sy'n cynnwys blaenoriaethau ac amcanion y corff ar gyfer y flwyddyn, a gynhyrchir ar ôl ymgynghori a heb fod angen caniatâd na chymeradwyaeth gan y Llywodraeth. 

Gan droi nawr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion y pwyllgor. Mae'r holl elfennau, ac felly ystyr dyletswydd gonestrwydd, wedi'u gosod ar wyneb y Bil. Mae'r Bil yn glir y daw'r ddyletswydd i rym pan fo mwy nag ychydig o niwed. Caiff esboniad o hyn ei nodi yn y canllawiau statudol y byddwn yn eu datblygu ar y cyd â chlinigwyr a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae hynny'n bwysig gan y bydd yn ein galluogi i roi arweiniad i staff gofal iechyd, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â sut mae'r ddyletswydd yn gweithio mewn ffordd hygyrch a hawdd ei defnyddio. Rwy'n deall sylw'r pwyllgor ynghylch yr angen am esboniad clir o'r hyn yw ystyr y ddyletswydd gonestrwydd, ac y dylai hynny fod yn hygyrch i'r cyhoedd. Rwy'n meddwl mai canllawiau statudol, unwaith eto, sy'n cynnig y ffordd orau o wneud hynny. Mae'r memorandwm esboniadol gyda'r Bil, ar dudalennau 19 a 20, yn cynnwys esboniad clir o'r hyn a olygir wrth ddyletswydd gonestrwydd a pham yr ydym ni'n cyflwyno dyletswydd o'r fath.

O ran eu hail argymhelliad, gallaf ddweud yn awr nad oes gennyf i unrhyw fwriad ar hyn o bryd i ddefnyddio'r pwerau yn adran 26 o ran diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Mae'r pŵer yno i sicrhau y gallwn ni ymateb yn briodol i unrhyw ddatblygiadau annisgwyl yn y dyfodol, fel deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn ddarpariaeth safonol ym Miliau'r Cynulliad. Pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol, byddai'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a gwaith craffu gan y Cynulliad. 

Rwyf wedi myfyrio ar y drafodaeth yn y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o'r gair 'hwylus' yn y Gymraeg a'r Saesneg, a byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i roi'r gair 'priodol' yn lle'r gair 'hwylus'. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hargymhellion adeiladol a defnyddiol. Byddaf yn cyflwyno asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig a chryfach i adlewyrchu'r adroddiad lle y bo'n briodol, gan gynnwys dadansoddiad sensitifrwydd ar gyfer rhai rhannau o'r Bil ac ystod o gostau sy'n cwmpasu gwahanol amgylchiadau.

Yn olaf, hoffwn ailadrodd fy sylwadau cynharach a diolch unwaith eto i'r holl bwyllgorau am eu sylwadau hyd yma a'u hymgysylltiad drwy gydol Cyfnod 1 y gwaith o graffu ar y Bil. Credaf ein bod ni, ddinasyddion Cymru, yn wirioneddol ffodus i fwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau wedi eu darparu gan staff ymroddedig a thosturiol ar bob lefel. Bydd llwyddiant hynt y Bil hwn yn helpu i ddiogelu'r gwasanaethau hyn am y cenedlaethau i ddod. Fel y mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn cydnabod, mae cryn gefnogaeth gan ystod eang o randdeiliaid i amcanion y Bil, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei gefnogi heddiw.