Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Ar y cyfan, rydym ni'n croesawu’r cynigion yn y Bil yn fras, ac o’r farn ei fod yn cynrychioli cam pwysig tuag at ragor o dryloywder ac atebolrwydd ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Gan hynny, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dyna argymhelliad 1.
Fodd bynnag, rydym wedi pwyso a mesur y dystiolaeth gan randdeiliaid ac wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r Bil. Dwi'n clywed y geiriau mae'r Gweinidog wedi'u dweud ynglŷn â hynny a buaswn yn annog y Gweinidog i roi ei ystyriaeth lawn i'r argymhellion hyn yn ystod hynt y Bil.
Yn gyntaf, y ddyletswydd ansawdd. Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd eang newydd i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd gyda'r bwriad o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae ansawdd yn cynnwys effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny’n unig; diogelwch gwasanaethau iechyd; a phrofiad unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddynt.
Dywedodd llawer o ymatebwyr wrthym, er eu bod yn croesawu nod y Bil ac yn cydnabod yr angen i wella ansawdd, y dylid egluro a chryfhau’r ddyletswydd ansawdd, a bod angen diffinio ansawdd yn fwy penodol ar wyneb y Bil, ac y dylid cael darpariaeth ar gyfer cosbau am beidio â chydymffurfio.
Fel pwyllgor, rydym yn cefnogi’n llwyr unrhyw fesur sy'n ceisio gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd i'w gleifion. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi'r newid ffocws, a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Bil hwn, i ffordd o weithio ar draws y system a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu holl swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau iechyd.
Roeddem yn siomedig, felly, o glywed gan randdeiliaid, yn enwedig cyrff y gwasanaeth iechyd, nad oedd y Bil yn ddigon cryf o ran nodi sut byddai ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau yn cael ei asesu, sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell, a sut byddai methiant i gyflawni gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau yn cael sylw. Mae'r rhain yn faterion mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddelio â nhw. I'r perwyl hwn, nodwn fwriad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau ynghylch y ddyletswydd ansawdd i gefnogi a chynorthwyo cyrff y gwasanaeth iechyd i roi'r ddyletswydd hon ar waith, a'i fod wedi darparu amlinelliad drafft o'r canllawiau hynny. Rydym ni'n derbyn ei ddadl mai canllawiau yw'r cyfrwng mwyaf priodol ar gyfer y lefel o fanylder mae'n bwriadu ei ddarparu ar y mater hwn.
Fodd bynnag, credwn fod y canllawiau i gyd-fynd â'r darpariaethau dyletswydd ansawdd yn y Bil yn ganolog i lwyddiant y darpariaethau hyn ac, o'r herwydd, dylai’r canllawiau feddu ar awdurdod statudol. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth yn y Bil i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau yn benodol ar y ddyletswydd ansawdd. Eto, dwi'n clywed geiriau'r Gweinidog heddiw.
Gan hynny, rydym yn argymell bod y Bil yn cael ei wella i wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau statudol a dwi'n croesawu beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd. Dylai'r canllawiau hyn nodi'n glir sut bydd y ddyletswydd ansawdd wrth ddarparu gwasanaeth yn cael ei hasesu a sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell. Dylai hefyd gynnwys manylion am sut bydd arloesiadau a gwelliannau a ddyluniwyd mewn un ardal yn cael eu lledaenu a'u graddio ledled Cymru gyfan. Dyna argymhelliad 2.
Clywsom dystiolaeth gref am yr angen am gysylltiad clir rhwng ansawdd gwasanaeth a’r gweithlu. Rydym yn ategu'r farn hon. Yn ein barn ni, mae'n amhosibl gwahanu mater ansawdd a darparu lefelau staffio priodol—mae cysylltiad annatod rhyngddynt. Er mwyn cyflawni ansawdd o ran darparu gwasanaethau, rhaid cael y lefel angenrheidiol o staff. Gan hynny, dylid gwella’r Bil i wneud darpariaeth benodol ar gyfer lefelau staffio a chynllunio’r gweithlu yn briodol fel rhan o'r ddyletswydd ansawdd. Dyna argymhelliad 4.
Ymhellach, credwn fod cysylltiad annatod rhwng gwella ansawdd gwasanaethau a lleihau anghydraddoldebau iechyd, a rhaid darparu ar gyfer y cyswllt hwn yn gliriach ar wyneb y Bil. Dyna argymhelliad 5.
Mewn perthynas â sancsiynau, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am arwydd cliriach o sut yr eir i'r afael â methiant i ddarparu gwelliannau i wasanaethau. I'r perwyl hwn, credwn y dylid bod canlyniadau clir yn sgil diffyg cydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd, ac y dylid darparu ar gyfer hyn ar wyneb y Bil. Ni ddylai sancsiynau o'r fath gael effaith niweidiol ar sefyllfa ariannol y sefydliad. Rydym yn cytuno â'r Gweinidog fod trefniadau uwchgyfeirio ac ymyriadau’r gwasanaeth iechyd yn fecanwaith priodol.
Gan symud ymlaen nawr at y ddyletswydd gonestrwydd. Rydym yn llwyr gefnogi amcan polisi dyletswydd gonestrwydd, a'r symudiad diwylliannol tuag at fod yn fwy agored a thryloyw yn y gwasanaeth iechyd a ddylai ddeillio o hynny. Pan aiff pethau o chwith mewn lleoliadau iechyd, dylai cleifion a'u teuluoedd allu disgwyl cael eu trin mewn ffordd agored ac onest. Mater yr un mor bwysig yw bod gan sefydliadau ddiwylliant ar waith sy'n annog ac yn ategu’r egwyddor o ddysgu o gamgymeriadau ac sy’n creu'r amodau priodol i hyn ddigwydd.
Er bod y Bil yn nodi'r amodau i'w bodloni er mwyn sbarduno'r ddyletswydd gonestrwydd, bydd cymaint o'r manylion am weithredu hyn yn ymarferol yn fater i reoliadau a chanllawiau. Y rheoliadau fydd yn nodi'r broses i'w dilyn unwaith y bydd y ddyletswydd wedi ei sbarduno. O'r herwydd, rydym yn croesawu'r ymrwymiad gan y Gweinidog i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau a darparu canllawiau statudol ategol.
Yn yr un modd â'r ddyletswydd ansawdd, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am sancsiynau am beidio â chydymffurfio â'r ddyletswydd gonestrwydd hon. Clywsom bryderon real iawn gan randdeiliaid ynghylch rhwystrau o ran datgelu ac ofnau dilys staff y gwasanaeth iechyd ynghylch codi llais. Mae'n hanfodol bwysig wrth gyflawni'r math o newid diwylliannol a hyrwyddir gan y Bil hwn fod gan staff amgylchedd diogel i fod yn agored ac yn dryloyw, heb ofni gwrthgyhuddo. Er ein bod yn cefnogi'r camau hyn, nid ydym wedi ein hargyhoeddi’n llawn eu bod yn ddigonol. Credwn fod rhinwedd mewn archwilio ymhellach system gymorth fwy annibynnol a chadarn i staff sy'n eu galluogi i deimlo'n ddiogel wrth godi pryderon a chwythu'r chwiban.
Mewn perthynas â chorff llais y dinesydd, mae nifer o heriau o ran y fframwaith statudol presennol. O'r herwydd, mae angen diwygiadau yn y maes hwn ac felly rydym yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda'r corff llais y dinesydd newydd a fydd yn cwmpasu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod y rôl amhrisiadwy mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi ei chwarae dros y 45 mlynedd diwethaf wrth adlewyrchu barn a chynrychioli buddiannau eu cymunedau lleol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rhaid peidio â cholli cryfderau'r cynghorau iechyd cymuned, gan gynnwys eu gallu i gynrychioli llais pobl leol, mewn unrhyw strwythur newydd, ond adeiladu arnynt a'u datblygu. Awgrymodd nifer o dystion y dylai penodi aelodau corff llais y dinesydd fod yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac, fel pwyllgor, rydym yn cytuno.
Clywsom bryderon hefyd am allu corff llais y dinesydd i gynnal ymweliadau cyhoeddedig a dirybudd, ac rydym yn cefnogi hynna. Mae hyn wedi bod yn ffordd werthfawr a rhad o wirio ansawdd a darpariaeth gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod problemau o ran mynediad pan fydd pobl yn derbyn gwasanaeth gartref, yn enwedig lle mae hyn mewn lleoliad gofal preswyl. Fodd bynnag, nid ydym yn cynnig mynediad dilyffethair at ystafelloedd preifat pobl. Dylai cyflawni gwiriadau rhesymol a chymesur fod yn gyfan gwbl bosibl i'w wneud.
Gan dynnu at y diwedd, a diolch am eich amynedd, er ein bod yn cytuno ei bod yn annhebygol y byddai Gweinidogion Cymru yn anwybyddu sylwadau corff llais y dinesydd, byddai sefydlu'r hawl i ymateb mewn deddfwriaeth yn rhoi digon o bwerau i'r corff fel bod y cyhoedd yn hyderus y gall wneud gwahaniaeth. Gan hynny, rydym yn argymell ei fod yn y Bil.
Mae yna nifer eraill o argymhellion a sylwadau y buaswn i'n licio eu gwneud ond, wrth gwrs, mae amser wedi cerdded ymlaen. I derfynu, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw. Mae yna nifer o welliannau sydd yn angenrheidiol i'r Bil yma i'w wneud. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes, ei fod yn mynd i gyflwyno rhai gwelliannau, buaswn i'n gofyn iddo wrando ar yr holl areithiau y prynhawn yma. Dwi'n croesawu bwriad y Gweinidog i gyflwyno rhai gwelliannau ac, eto, mae angen gwelliannau sy'n dilyn trywydd adroddiad y pwyllgor iechyd i wneud yn siŵr bod hwn yn Fil sy'n addas i'r bwriad. Diolch yn fawr.