Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2019.
Cynhaliodd y pwyllgor ymarfer ymgynghori cyhoeddus dros yr haf, a chymerodd dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn un elfen o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella a gwarchod iechyd, gofal a llesiant poblogaeth Cymru. Byddai'n anodd anghytuno â'i brif nodau, sef: sicrhau bod ansawdd yn dod yn sbardun i ffordd systematig o weithio yn y gwasanaeth iechyd; ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau iechyd fod yn agored ac yn onest pan aiff pethau o chwith; a chryfhau llais dinasyddion ar draws y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.