Ariannu Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:15, 27 Tachwedd 2019

Mi fyddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod nifer o fyrddau llywodraethol ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â'u cyllidebau nhw flwyddyn nesaf, sy'n cynnwys diswyddo athrawon, diswyddo cynorthwywyr dosbarth, ac yn y blaen. Ond maen nhw'n gwneud hynny heb wybod, wrth gwrs, beth fydd eu cyllideb nhw ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac os gwrandewch chi ar rai o'r pleidiau gwleidyddol yn yr etholiad cyffredinol, mae'n bosibl na fydd pres ddim yn issue o gwbl yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond mi gredaf i hynny pan welaf i fe.

Ond yr hyn dwi'n gofyn, wrth gwrs, yw: beth ŷch chi'n ei wneud i roi sicrwydd cynharach i ysgolion ynglŷn â beth allan nhw ddisgwyl y flwyddyn nesaf, a hefyd sicrwydd mwy hirdymor, oherwydd mae mynd o flwyddyn i flwyddyn yn broblemus, onid yw e? Gallwch chi gael gwell cynllunio strategol o roi sicrwydd mwy hirdymor o ariannu a fyddai, ar ddiwedd y dydd, yn rhoi mwy o werth am yr arian rŷch chi'n ei roi iddyn nhw yn y lle cyntaf.