Mercher, 27 Tachwedd 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Bethan Sayed.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae adran addysg Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r adran economi a thrafnidiaeth i wella opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd mewn addysg...
2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am effeithiolrwydd y fenter prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru? OAQ54750
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sydd yn astudio mewn addysg uwch? OAQ54742
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer? OAQ54739
5. Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y 12 mis nesaf? OAQ54741
6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i atal bwlio mewn ysgolion? OAQ54756
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau oedi o ran cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru am 2020-21 i ariannu ysgolion? OAQ54747
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi'r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU a safon uwch? OAQ54763
Eitem 2 yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a daw cwestiwn 1 y prynhawn yma gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau'r byrddau iechyd newydd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54765
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd GIG Cymru—[Torri ar draws.] A dweud y gwir, os ydych o ddifrif eisiau gwybod—
Symudwn ymlaen at gwestiynau'r llefarwyr, a daw'r cyntaf gan Angela Burns, llefarydd y Ceidwadwyr.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cyfathrebu rhwng y GIG a chleifion yng Nghymru? OAQ54738
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe? OAQ54748
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghanol De Cymru? OAQ54760
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau llywodraethu ar gyfer byrddau iechyd yng Nghymru? OAQ54757
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn amserol cyntaf y prynhawn yma gan Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas? 369
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a wnaed ar losgydd y Barri, o gofio bod profion yn y gwaith eisoes wedi dechrau? 370
Eitem 4 ar yr agenda, y datganiad 90 eiliad—Dawn Bowden.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig—Lywydd.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganser y pancreas, a galwaf ar Lynne Neagle i wneud y cynnig. [Torri ar draws.] A gawn ni fod yn dawel, os...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Felly, y bleidlais gyntaf heno felly yw pleidlais ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar ganser y pancreas. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agor y...
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allant fynd yn gyflym, yn dawel, os gwelwch yn dda? Un funud, Mark. Iawn, os oes Aelodau'n gadael, ewch yn awr. Rwyf ar fin galw'r ddadl...
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl i ddysgwyr mewn addysg bellach?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad ysbyty newydd Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia