Bwlio mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:08, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Joyce. Y mis hwn, rwyf wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau o dan yr enw 'Hawliau, parch, cydraddoldeb: Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir', sy'n amlinellu ein canllawiau statudol newydd ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu i atal a mynd i'r afael â bwlio yn ein system addysg. Fe'u cefnogir gan ganllawiau cynghori i blant a phobl ifanc eu hunain a'u rhieni a'u gofalwyr ar sut y gallant helpu rhai sy'n cael eu bwlio.