Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Credaf fod pob un ohonom wedi cael e-bost gan nain bryderus iawn yn Wrecsam, sy'n dweud wrthym ei bod yn teimlo nad yw ysgol ei hwyres yn dilyn y weithdrefn ar fwlio, ac mewn gwirionedd, mae'n ymddangos iddi hi fod yr ysgol yn rhwystro unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem, ni waeth beth fo'r canllawiau, heddiw neu yn y gorffennol. A allwch anfon unrhyw neges ychwanegol sy'n gadarn ac yn glir nad yw bwlio yn iawn, a bod yn rhaid i ysgolion fod o ddifrif ynghylch honiadau, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a'i gofnodi?