Pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:14, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jack Sergeant am y cwestiwn hwnnw. Darparwn amrywiaeth o gymorth i bobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas, naill ai'n uniongyrchol drwy wasanaethau cwnsela, neu'n anuniongyrchol drwy hyfforddiant codi ymwybyddiaeth i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, er mwyn sicrhau eu bod yn ymateb yn briodol i unrhyw anghenion cymorth a nodwyd sydd gan y bobl ifanc y dônt i gysylltiad â hwy.