5. Dadl Cyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 27 Tachwedd 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:53, 27 Tachwedd 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes y bydd y bleidlais ar yr eitem hon yn cael ei chynnal ar unwaith.

Yn unol ag adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 26.50A, rwyf wedi gwneud datganiad ar faterion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig a gofyniad y Bil hwn mewn perthynas ag uwchfwyafrif. Gan fod y Bil yn cynnwys materion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig, mae'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau cefnogaeth isafswm o 40 o Aelodau i'r Bil er mwyn iddo basio. Ac oni bai fod rhywun yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, hoffwn fynd ymlaen yn syth i'r bleidlais. Felly, agor y bleidlais. A chau'r bleidlais. 41 o blaid Cyfnod 4, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r Bil wedi'i dderbyn.