Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Rydym hefyd wedi cael cyfaddawd rhwng safbwyntiau cystadleuol ar sut y dylid ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'i waith ar etholiadau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol i sicrhau y gall y trefniadau newydd weithio'n effeithiol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddant yn dod i rym pan allwn fod yn hyderus o hynny ac mae'r trefniadau newydd hyn yn elfen bwysig o ddatblygiad datganoli.
O ran y darpariaethau sy'n ymwneud ag anghymhwyso, rwy'n talu teyrnged i David Melding a gadeiriodd y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf a argymhellodd ein bod yn gwahaniaethu rhwng anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ac anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Rydym wedi dilyn yr argymhelliad hwnnw, er, unwaith eto, cafwyd safbwyntiau gwahanol ynglŷn â sut yn union y dylid cymhwyso'r gwahaniaeth hwnnw mewn achosion penodol.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig estyn etholfraint y Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i ddinasyddion tramor cymwys. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o blaid cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd ers amser, a chredwn fod hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau democratiaeth fywiog. Yn yr un modd, credwn y dylai pobl, beth bynnag fo'u dinasyddiaeth, sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymuned allu lleisio barn ar ddyfodol y gymuned honno, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno gwelliannau i ymestyn etholfraint y Senedd i ddinasyddion tramor cymwys ac roeddem yn falch fod hynny wedi denu cefnogaeth y tu hwnt—ymhell y tu hwnt—i feinciau Llywodraeth Cymru. Ac yn wir, gan gyfeirio'n ôl at sylwadau a wnaed mewn cyfraniadau cynharach, bydd yr Aelodau'n cofio, pan ofynnwyd iddynt a ddylid caniatáu i holl drigolion cyfreithiol Cymru bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ni waeth beth fo'u cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, roedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent. Mae darpariaethau cyfatebol ar yr etholfraint ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rydym yn credu ei bod yn briodol fod yr etholfraint yr un fath ar gyfer pob etholiad datganoledig yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn Fil pwysig. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn defnyddio'r pwerau newydd a roddwyd i ni gan Ddeddf Cymru 2017 i wneud ein democratiaeth yn fwy hygyrch a dealladwy, a'n bod yn ei hagor i fwy o bobl yn ein cymdeithas. Dyna y mae'r Bil yn ei gyflawni ac wrth ailadrodd fy niolch i'r Llywydd fel yr Aelod cyfrifol ac ategu ei diolch yn wir i'r holl swyddogion a chyfreithwyr sydd wedi gweithio ar y Bil hwn, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o'i blaid.