Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r bartneriaeth a grëwyd rhwng Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth o ddichonoldeb, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw'n fuan.