1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Rhagfyr 2019.
1. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? OAQ54778
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r bartneriaeth a grëwyd rhwng Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth o ddichonoldeb, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Edrychaf ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw'n fuan.
Wel, sylwaf fod y grŵp trawsbleidiol heddiw, na allwn fynd iddo, wedi cyfeirio at hynny a datblygiad y grŵp sy'n gweithio ym Manc Cambria i fwrw ymlaen â'ch cynigion ar gyfer banc cymunedol. Wrth gwrs, mae'r rhain yn cydredeg â datblygu cytundeb fframwaith bancio Swyddfa'r Post gyda 28 o fanciau yn y DU i alluogi cwsmeriaid ar y stryd fawr i allu manteisio ar wasanaethau bancio ehangach, a'r cynigion ddwy flynedd yn ôl gan Cyllid Cyfrifol Cymru, er mwyn i eraill, er mwyn i grwpiau, gydweithio i ddatblygu model banc cymunedol. Ac, wrth gwrs, roeddwn i'n arfer gweithio yn un o ragflaenwyr y banciau cymunedol—un o'r cymdeithasau adeiladu cydfuddiannol.
Fodd bynnag, pan godais gyda'r Prif Weinidog ar y pryd, yn 2010, y gofynion a'r rheoliadau rheoli risg a digonolrwydd cyfalaf y byddai'n rhaid i fanc newydd gydymffurfio â nhw, na fyddai'n rhaid i bartner banc sefydledig ei wneud, cytunodd y Prif Weinidog ar y pryd y gall sefydlu banc newydd fod, a dyfynnaf, yn fusnes drud a hirfaith os ydych chi'n dechrau o'r dechrau, ac mae defnyddio'r arbenigedd sydd eisoes yn y sector i ddatblygu model bancio cymdeithasol yn gwneud synnwyr.
Pa drafodaethau ydych chi a'ch cyd-Weinidogion wedi eu cael, felly, mewn ymgynghoriad â grwpiau defnyddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant, ynghylch dichonoldeb cael banc cymunedol yng Nghymru sy'n adlewyrchu'r anghenion, y rheoliadau a'r egwyddorion bancio craidd hynny?
Wel, Llywydd, diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i ddweud bod gan y busnes o sefydlu banc newydd rwystrau rheoleiddio sylweddol i'w goresgyn ac y gall fod yn fusnes hirfaith. Ond dyna pam yr ydym ni'n gweithio gyda'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol. Ac yn y modd hwnnw, mae'r sefyllfa wedi newid ers 2010, gan fod y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, sy'n deillio o waith a wnaed gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, wedi ariannu ei hun ac wedi arwain y gwaith o baratoi dogfennau cyfansoddiadol, systemau TG, dyluniadau canghennau, cysylltiadau system daliadau, manylebau cynnyrch, ac, yn hanfodol, dogfennau cais am drwydded fancio. Felly, mae llawer mwy o waith wedi'i wneud erbyn hyn gan grŵp o arbenigwyr sy'n rhoi'r sylfaen i ni ar gyfer yr hyn y gall Banc Cambria ei wneud yma yng Nghymru.
Mae'r ddogfen cais am drwydded fancio, yn arbennig, yn rhannu'r broses o gael trwydded i nifer o gamau y gellir eu rheoli. A dyna'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu gweithio drwy'r broses yng Nghymru, gan symud ymlaen un cam ar y tro. Dyna pam mae'r asesiad cychwynnol o'r farchnad a'r astudiaeth o ddichonoldeb mor bwysig, gan y bydd yn profi'r cwestiynau sylfaenol hynny ynghylch hyfywedd a chynaliadwyedd, ac yna byddwn yn symud ymlaen i'r cam nesaf, gan weithio gydag 11 o fentrau eraill sydd ar wahanol gamau o gynnydd ar draws y Deyrnas Unedig, pob un ohonyn nhw o dan ambarél y Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol, gan roi'r hyder i ni yma yng Nghymru bod gennym ni'r cyngor sydd ei angen arnom i lwyddo yn ein huchelgais o sefydlu banc cymunedol.
Dwi'n siŵr buasai'n haws pe bai gennym ni'n trefniadau rheoleiddio ein hunain o ran sefydlu banc o'r math yma. Ond dŷn ni fel plaid wedi cefnogi cael banc cymunedol ers blynyddoedd. Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfrif yn ein banc cymunedol ni yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, ymateb ydy hyn rŵan i'r ffaith fod banciau't stryd fawr wedi gadael ein cymunedau ni yn y niferoedd dŷn ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. A fyddech chi'n cytuno efo fi fod y ffaith ein bod ni wedi methu â rheoleiddio, wedi methu â gosod amodau ar y banciau hynny, wedi'n gadael ni yn y sefyllfa yma lle dŷn ni wedi gweld yr ecsodus o wasanaethau ariannol o'r stryd fawr yn y modd dŷn ni wedi ei weld yn y blynyddoedd diwethaf?
Wel, i ddweud y gwir, Llywydd, mae'n fwy cymhleth na jest i ddweud mai problemau o reoleiddio sydd y tu ôl i beth sydd wedi digwydd ar y stryd fawr. Beth mae'r banciau yn ei ddweud yw nad yw'r business model maen nhw wedi'i ddefnyddio dros y blynyddoedd jest ddim yn gweithio fel oedd e beth amser yn ôl. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio'u canghennau wedi cwympo, mae lot fwy o bobl yn gwneud y gwaith ar-lein, so mae rhywbeth yn y business model hefyd. Dyna pam mae hi wedi bod mor bwysig i weithio gyda'r Community Savings Bank Association, achos maen nhw wedi creu model newydd ble maen nhw'n hyderus ei bod hi'n bosibl rhedeg rhywbeth ar y stryd fawr mewn ffordd wahanol sy'n gallu gweithio yn lleol. A dyna pam dŷn ni wedi bwrw ymlaen. Dwi'n cytuno â beth roedd Rhun ap Iorwerth yn ei ddweud am y broblem, ac mae'r broblem ledled Cymru, dŷn ni'n gwybod. Ond mae jest dweud mai'r hen ffordd i wneud pethau yw'r ffordd orau i'w wneud e ddim yn mynd i weithio, dwi ddim yn meddwl. Dyna pam mae'r model newydd gyda ni, a dŷn ni'n trial gweithio'n galed i gael y model yna ar waith yma yng Nghymru.