Banc Cymunedol yng Nghymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 3 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:34, 3 Rhagfyr 2019

Dwi'n siŵr buasai'n haws pe bai gennym ni'n trefniadau rheoleiddio ein hunain o ran sefydlu banc o'r math yma. Ond dŷn ni fel plaid wedi cefnogi cael banc cymunedol ers blynyddoedd. Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfrif yn ein banc cymunedol ni yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, ymateb ydy hyn rŵan i'r ffaith fod banciau't stryd fawr wedi gadael ein cymunedau ni yn y niferoedd dŷn ni wedi'u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. A fyddech chi'n cytuno efo fi fod y ffaith ein bod ni wedi methu â rheoleiddio, wedi methu â gosod amodau ar y banciau hynny, wedi'n gadael ni yn y sefyllfa yma lle dŷn ni wedi gweld yr ecsodus o wasanaethau ariannol o'r stryd fawr yn y modd dŷn ni wedi ei weld yn y blynyddoedd diwethaf?