Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Llywydd, mae'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu allan yn un o'r arwyddion mwyaf amlwg o ddegawd o gyni cyllidol y Torïaid. Yn ystod eleni yn unig bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd. Mae holl awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint, wedi elwa ar y cyllid newydd hwn.