1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Rhagfyr 2019.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint? OAQ54805
Llywydd, mae'r cynnydd i'r niferoedd sy'n cysgu allan yn un o'r arwyddion mwyaf amlwg o ddegawd o gyni cyllidol y Torïaid. Yn ystod eleni yn unig bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi dros £20 miliwn i atal a lliniaru digartrefedd. Mae holl awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint, wedi elwa ar y cyllid newydd hwn.
Diolch, Prif Weinidog. Soniasoch yn eich ymateb am effaith cyni cyllidol, ac mae hyn yn digwydd ar bob un stryd fawr erbyn hyn. Nid problem mewn dinasoedd mawr yn unig yw hon erbyn hyn. Mae pobl wedi bod yn cysgu ar y strydoedd mewn trefi fel Cei Connah a Shotton, am y tro cyntaf yn fy nghof i. Nawr, mae'n bosibl iawn y gallai pethau fynd yn drech na chynghorau fel Sir y Fflint y gaeaf hwn, felly rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi, Prif Weinidog, i ofyn pa gymorth brys y gallwch chi ei gynnig fel Llywodraeth Cymru i gynghorau fel Sir y Fflint i sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael allan yn yr oerfel y Nadolig hwn.
Prif Weinidog, os caf, hoffwn ofyn am eich sicrwydd hefyd y bydd y grant cymorth tai hefyd yn cael ei gryfhau, oherwydd yn aml, dyna'r unig hyblygrwydd sydd ar gael i gynorthwyo'r bobl hynny sydd mewn amgylchiadau anodd dros ben.
Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi byw y rhan fwyaf o'n bywydau pan fyddai gweld rhywun heb rywle i gysgu yn gwbl brin ac ysgytiol, a nawr rydym ni'n gweld y ffenomen hon, fel y dywedodd Jack, nid yn unig yn ein prif ardaloedd trefol, ond mewn trefi llai ledled Cymru, ac mae'n wirioneddol ysgytiol bod gwead ein gwladwriaeth les wedi cael ei chaniatáu i ddirywio i'r graddau y mae wedi ei wneud, ein bod ni'n gweld pobl yn y niferoedd hynny'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno erbyn hyn.
Mae'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a sefydlwyd gan y Gweinidog ac a gadeiriwyd gan Jon Sparkes o Crisis wedi cyflwyno adroddiad gyda chyfres o argymhellion uniongyrchol ar gyfer pethau y gallwn ni eu gwneud y gaeaf hwn i geisio osgoi'r sefyllfa y mae Jack Sargeant wedi cyfeirio ati. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion hynny ac mae'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chyda sefydliadau trydydd sector i weithredu'r mesurau hynny ar unwaith. Rydym ni wedi cynnal y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn Cefnogi Pobl, sydd, fel y dywedodd Jack, yn un o'r rhannau hyblyg o'r gyllideb y gall awdurdodau lleol a'u partneriaid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau i bobl, oherwydd er bod ailgartrefu cyflym yn ganolog i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gynnig i bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar y stryd, rydym ni hefyd yn gwybod bod gan yr unigolion hynny, oherwydd yr hanesion y bu'n rhaid iddyn nhw fynd drwyddynt, anghenion y tu hwnt i lety yn aml, a dyna y mae'r grant Cefnogi Pobl yno i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi ei gynnal drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, ac rydym ni'n bwriadu parhau i wneud hynny.