Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Cyn y cwestiwn hwn heddiw, siaradais â nifer o bobl ag awtistiaeth. Roedden nhw'n dweud wrthyf i eu bod nhw'n aml yn cael eu denu at addysg uwch, ac mae rhai ohonyn nhw yn aml yn orgymwysedig gan eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel o gael y cefndir academaidd hwnnw, a diogelwch mewn dysgu, yn hytrach na wynebu marchnad swyddi lle y gallen nhw, o bosibl, gael eu stigmateiddio, a'u bod nhw'n canfod nad yw prosesau ymgeisio am swyddi yn cyd-fynd â'u hanghenion.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud yn ddiweddar bod gwahaniaeth o 12 y cant rhwng cyflogau pobl anabl a'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl. Felly, gallwn siarad am addysg uwch a chael y bobl hynny ag awtistiaeth i mewn i'r system, sy'n iawn yn ei le, ond beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w cynorthwyo nhw pan fyddan nhw'n mynd allan i'r byd go iawn, pan eu bod eisiau cystadlu am swyddi ar sail deg mewn ffordd sy'n gyfartal iddyn nhw ac sy'n sy'n eu parchu hefyd?