Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Diolchaf i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith bod llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi byw y rhan fwyaf o'n bywydau pan fyddai gweld rhywun heb rywle i gysgu yn gwbl brin ac ysgytiol, a nawr rydym ni'n gweld y ffenomen hon, fel y dywedodd Jack, nid yn unig yn ein prif ardaloedd trefol, ond mewn trefi llai ledled Cymru, ac mae'n wirioneddol ysgytiol bod gwead ein gwladwriaeth les wedi cael ei chaniatáu i ddirywio i'r graddau y mae wedi ei wneud, ein bod ni'n gweld pobl yn y niferoedd hynny'n cael eu gorfodi i'r sefyllfa honno erbyn hyn.
Mae'r grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a sefydlwyd gan y Gweinidog ac a gadeiriwyd gan Jon Sparkes o Crisis wedi cyflwyno adroddiad gyda chyfres o argymhellion uniongyrchol ar gyfer pethau y gallwn ni eu gwneud y gaeaf hwn i geisio osgoi'r sefyllfa y mae Jack Sargeant wedi cyfeirio ati. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion hynny ac mae'n gweithio'n galed gyda chydweithwyr yn yr awdurdodau lleol a chyda sefydliadau trydydd sector i weithredu'r mesurau hynny ar unwaith. Rydym ni wedi cynnal y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn Cefnogi Pobl, sydd, fel y dywedodd Jack, yn un o'r rhannau hyblyg o'r gyllideb y gall awdurdodau lleol a'u partneriaid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau i bobl, oherwydd er bod ailgartrefu cyflym yn ganolog i'r hyn yr ydym ni eisiau ei gynnig i bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar y stryd, rydym ni hefyd yn gwybod bod gan yr unigolion hynny, oherwydd yr hanesion y bu'n rhaid iddyn nhw fynd drwyddynt, anghenion y tu hwnt i lety yn aml, a dyna y mae'r grant Cefnogi Pobl yno i'w wneud, a dyna pam yr ydym ni wedi ei gynnal drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, ac rydym ni'n bwriadu parhau i wneud hynny.