– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 3 Rhagfyr 2019.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ynghylch rhwydwaith clwstwr bwyd a diod Cymru, ac, yn ogystal â hynny, mae'r ddadl fer yfory wedi'i gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, Trefnydd, y cyntaf, ar fater gwasanaethau cwnsela gofal sylfaenol yn y Gogledd, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? Mae problem sylweddol o ran amseroedd aros am wasanaethau cwnsela gofal sylfaenol mewn rhai rhannau o'm hetholaeth i ac, yn amlwg, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd o dan fesurau arbennig ar gyfer ei wasanaethau iechyd meddwl , roeddwn i eisiau i hyn gael ei amlygu, a chael gwybod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i'w ddatrys. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae yna yn ardal dwyrain Conwy rai unigolion yn aros ar hyn o bryd—yr arhosiad arferol i weld cwnselydd gofal sylfaenol yw 12 mis, sy'n amlwg yn annerbyniol, o'i gymharu â gorllewin Conwy a chanolbarth a de Sir Ddinbych, lle mae unigolion yn cael gwasanaeth bron ar unwaith oherwydd cymerwyd dull gwahanol o weithredu gan glystyrau gofal sylfaenol y meddygon teulu. Nawr, rwy'n siŵr y cytunwch chi â mi y dylai pobl gael yr un cyfle cyfartal i'r mathau hyn o wasanaethau lle maen nhw wedi'u gwasanaethu gan yr un bwrdd iechyd lleol, a byddwn i'n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ymchwilio i hyn er mwyn i ni allu sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael mewn modd amserol i'r rhai sydd eu hangen.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar ddiogelwch mewn llety rhent? Rwy'n deall nad oes unrhyw ofynion cyfreithiol ar hyn o bryd i osod synwyryddion carbon monocsid mewn llety rhent, mewn ystafelloedd lle mae offer llosgi nwy. Ond, o ystyried y byddwn ni i gyd yn ymwybodol o'r golygfeydd trasig sydd wedi digwydd mewn rhai cartrefi, lle mae unigolion yn anffodus wedi ildio i garbon monocsid, a rhai ohonyn nhw wedi marw, credaf i fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, a byddai'n ddefnyddiol i ni newid y gyfraith i wneud synwyryddion carbon monocsid yn ofyniad mewn llety rhent. Mae carbon monocsid yn gyfrifol am farwolaeth tua 60 o bobl bob blwyddyn yn y DU, ac mae miloedd o bobl wedi cael eu derbyn i'r ysbyty o ganlyniad i gael eu gwenwyno gan garbon monocsid. Credaf fod hyn yn rhywbeth y mae'n werth ei ystyried, a byddwn i'n falch iawn o gael datganiad.
Diolch i Darren Millar am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Bydd ef yn cofio bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi'r fframwaith gwella diwygiedig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 14 Tachwedd, gan nodi'r disgwyliadau y bydd angen iddo eu bodloni er mwyn cael ei dynnu oddi ar fesurau arbennig. A gwn fod y Gweinidog Iechyd yn falch o nodi bod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud o ran gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys y dull ICAN o wella iechyd meddwl. Ond rwy'n gwerthfawrogi pryderon Darren Millar am wahanol ddulliau ledled yr ardal y mae'n ei chynrychioli. Felly, byddwn i'n ei wahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, gan ailadrodd y pryderon y mae wedi sôn amdanyn nhw yn y Cynulliad heddiw.
O ran diogelwch mewn llety rhent a charbon monocsid, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y safonau y mae eu hangen arnom ar gyfer llety rhent, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar bwysigrwydd profwyr carbon monocsid.FootnoteLink
A gawn ni ddatganiad, neu ddadl, ar fagiau siopa plastig, a all helpu i lywio ystyriaethau'r Gweinidog wrth iddi benderfynu ar y ffordd ymlaen i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran lleihau plastigau defnydd untro? Byddai'n caniatáu inni wedyn drafod yr astudiaeth wyddonol hirdymor gyntaf o blastigau bioddiraddadwy, oxo-diraddadwy a phlastig y gellir ei gompostio, sydd wedi dangos, ar ôl tair blynedd o'u rhoi mewn pridd, dŵr môr ac awyr agored, fod y bagiau bioddiraddadwy ac oxo-diraddiadwy yn rhyfeddol o wydn, ac yn dal i allu dal 2kg ar ôl y tair blynedd. A gallem hefyd drafod, wrth gwrs, y cynnydd yn nefnydd y bagiau plastig am oes sy'n fwy trwchus. Ac wedi hynny, byddwn i'n awgrymu bod angen dod â'r defnydd o fagiau untro a bagiau plastig i ben ar gyfer siopa yn gyfan gwbl. Rydym wedi arwain y ffordd yng Nghymru; gallwn ni fynd ymhellach, a gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo â hynny.
A gawn ni ddatganiad hefyd am ddatblygu safbwynt Llywodraeth Cymru ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru? Rwy'n datgan fy niddordeb fel aelod cyswllt hirdymor o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Rwy'n cefnogi eu safbwynt ar gamerâu teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai, gan y byddai'n golygu mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio'r ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu trin. Byddai hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd i arsylwi a gwirio bod y prosesau stynio a lladd yn cael eu gweithredu'n gywir, ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddiogelu'r gadwyn fwyd a diogelu iechyd y cyhoedd.
Ac yn olaf, a gawn ni ddatganiad maes o law—yn enwedig, efallai, ar ôl i'r Arlywydd Trump adael y DU—ar faterion sy'n ymwneud â masnach yn y dyfodol gyda'r Unol Daleithiau, a'r goblygiadau i Gymru o ran nid yn unig unrhyw wasanaethau iechyd, ond hefyd yr angen i warchod ein ffermwyr, ein cynhyrchwyr bwyd a'n cwsmeriaid yn erbyn safonau llesiant anifeiliaid a hylendid is. Mae'r syniad ein bod yn sydyn yn agor ein marchnadoedd i fewnforion o wartheg sy'n cael eu pwmpio'n llawn, yn ddi-angen, â gwrthfiotigau, neu gyw iâr sy'n cael ei olchi mewn clorin i ladd bacteria rhemp fel mater o drefn—. Nid yw hynny'n golygu chwarae teg i'n ffermwyr, ac, mae'n rhaid imi ddweud, nid y safon y mae ein cwsmeriaid eisiau ei chael o ran llesiant anifeiliaid a hylendid bwyd. Felly, gofynnaf am ystyriaeth o'r tair dadl a'r datganiadau hynny.
Diolch yn fawr iawn am ofyn am y tri datganiad neu'r dadleuon hynny. Gwn fod gennych chi gyfarfod wedi'i gynllunio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio i drafod y pryderon penodol ynglŷn â gwastraff, a gwn ei bod yn ymwybodol o'r ymchwil yr ydych chi wedi cyfeirio ati. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi comisiynu astudiaeth o'r defnydd o fagiau siopa yng Nghymru, a bod ymchwil wedi casglu data ar fagiau siopa untro a bagiau amldro, ac mae hefyd wedi archwilio agweddau ac ymddygiad pobl mewn cysylltiad â chyflwyno taliad am fagiau siopa. Bydd canlyniad y gwaith hwnnw'n cael ei gyhoeddi'r mis hwn ac yn cael ei ddefnyddio bryd hynny i'n helpu i ystyried y camau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol o ran hynny. A gwn fod y Gweinidog yn awyddus i archwilio hynny gyda chi.
Ynghylch y mater o deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, mae gan ein lladd-dai mwy o faint, sy'n prosesu'r mwyafrif helaeth o anifeiliaid yma yng Nghymru, gamerâu CCTV eisoes, a gall milfeddygon swyddogol gael gafael ar y lluniau hynny am yr holl resymau defnyddiol hynny a ddisgrifiwyd gan Huw Irranca-Davies. Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi ymrwymo i weithio gyda gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas gefnogol i sicrhau bod teledu cylch cyfyng ar gael ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Ac, er mwyn hwyluso hynny, mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig yn cynnwys cyllid ar gyfer buddsoddi i ddiogelu llesiant anifeiliaid, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gosod, diweddaru neu wella teledu cylch cyfyng. Nid yw cyflwyno deddfwriaeth i'w wneud yn orfodol wedi cael ei ddiystyru o bell ffordd, ac ni fydd unrhyw benderfyniad i wneud hynny'n digwydd tan ar ôl i'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun hwnnw gau ym mis Ionawr, ac yna bydd y math o fuddsoddi ac i ba raddau y gwneir hynny gan y lladd-dai yn cael ei adolygu.
Ac ar y mater olaf, ar ôl yr etholiad cyffredinol, os cawn sefyllfa pan fydd gennym ni Lywodraeth sydd eisiau cynnal negodiadau â'r Unol Daleithiau fel blaenoriaeth, yna yn sicr byddwn yn trefnu cyfle i'r Cynulliad ystyried yr hyn a allai fod yn effeithiau negyddol sylweddol i Gymru. Wrth gwrs, yr UE a'r Unol Daleithiau yw dau o'r negodwyr masnach cryfaf a mwyaf profiadol yn y byd ac mae gwahaniaethau sylfaenol mewn agwedd rhwng y ddwy wlad mewn meysydd fel diogelwch bwyd a chyfle i ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus. A gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, ac sy'n gyfrifol am fasnachu o fewn ei phortffolio, yn awyddus i'w archwilio gydag Aelodau'r Cynulliad.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg am bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent. Yn ôl adroddiad diweddar, dros y tair blynedd diwethaf, mae presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn y fwrdeistref wedi methu â gwella. Mae Blaenau Gwent yn is na'r holl awdurdodau lleol eraill yn y de-ddwyrain ac mae'n is o lawer na chyfartaledd Cymru o 93.8 y cant. A fyddai modd inni gael datganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ddifrifol hon—[Torri ar draws.]—sydd wedi gweld Blaenau Gwent—dyma fy rhanbarth i— yn ugeinfed o'r 21 awdurdod lleol yng Nghymru o ran presenoldeb mewn ysgolion uwchradd dros y tair blynedd diwethaf?
A'r ail, Gweinidog, yw datganiad am y canlyniad PISA hwn, maen nhw'n dweud, gair am air, am lesiant disgyblion Cymru:
Roedden nhw'n fwy tebygol o deimlo'n ddigalon ac yn bryderus...ac yn llai tebygol o deimlo'n llawen, yn siriol ac yn falch.
Dyna ganlyniad PISA i'n myfyrwyr Cymraeg. Felly, sut gallwn ni wella safon morâl ein plant a'n system addysgu yn ein hysgolion i wneud yn siŵr eu bod nid yn unig yn dysgu, ond hefyd eu bod yn mwynhau yn ysgolion Cymru? Diolch.
Felly, o ran y mater cyntaf, sef presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent, byddwn i'n eich gwahodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn amlinellu eich safbwyntiau a'ch pryderon yno.
Ac, wrth gwrs, yr eitem nesaf o fusnes y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ganlyniadau PISA, a gwn i ei bod yn awyddus i drafod yr holl faterion hyn gyda'r Aelodau y prynhawn yma.
Gweinidog, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, dydd Sadwrn hwn yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach Cymru. Cyfle gwych i bob un ohonom ni, fel Aelodau'r Cynulliad, gefnogi busnesau cynhenid lleol, yn y stryd fawr ac mewn mannau eraill. Yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, gwnaeth y Prif Weinidog y pwynt pwysig nad oes modd atgyfodi stryd fawr y gorffennol, ni waeth faint y byddwn ni'n dymuno hynny weithiau, ond bydd y dyfodol yn gyfuniad o'r stryd fawr ffisegol a gwerthiant ar-lein.
Pan oeddwn i'n Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, yn ôl yn 2014 rwy'n credu, fe wnaethom ni adrodd ar sut y byddai modd gwella'r stryd fawr ac fe awgrymon ni y dull hwn o weithredu. Mae pum mlynedd, chwe blynedd wedi mynd heibio ers hynny. Tybed a allem ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gallem ni gyflawni'r stryd fawr fwy modern, mwy cynaliadwy honno drwy newid pwyslais ardrethi busnes fel bod busnesau, boed yn rhai ar-lein neu ar y stryd fawr ffisegol, yn gallu cystadlu'n well a goroesi.
Yn ail, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y cynigion ar gyfer coedwig genedlaethol? Gwn fod hyn yn rhywbeth sydd ar y gweill a bod syniadau gwahanol wedi bod ynglŷn â sut y gellid cyflawni hyn. Mae'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd, gyda llawer o bleidiau yn etholiad cyffredinol y DU yn ystyried ffyrdd y gallwn ni blannu mwy o goed. Rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni'n cytuno bod honno'n ffordd dda o fynd ati, ond y mater dan sylw yw sut y gwnewch chi hynny, pa mor gyflym y gwnewch chi hynny a ble y caiff y coed hynny eu plannu, a yw'n cael ei wneud ar sail awdurdod lleol, sef cynllun Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, yn hytrach na'i gael mewn un man. Felly, tybed a gawn ni ddiweddariad ar strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud Cymru yn wyrddach yn y dyfodol a'n bod ni'n arwain ledled y DU i ddangos sut y gall Cymru fod y rhan fwyaf cynaliadwy ac ecogyfeillgar o'r DU yn y dyfodol.
Yn sicr, rwy'n edrych ymlaen at ddathlu Dydd Sadwrn Busnesau Bach, yn debyg, rwy'n siŵr, i lawer o gyd-Aelodau eraill yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn amlwg rwy'n siŵr y byddwn ni'n manteisio ar bob cyfle i gefnogi a hyrwyddo'r masnachwyr annibynnol hynny sydd o fewn pob un o'n hetholaethau ledled Cymru, a'r bywiogrwydd y maen nhw'n ei roi i'n strydoedd mawr. Mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am adfywio yma, a bydd hi wedi clywed eich cais chi o ran yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr, yn enwedig o ran mynd i'r afael â'r angen i greu stryd fawr y dyfodol, sydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn edrych yn wahanol iawn i'r gorffennol.FootnoteLink Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith diddorol iawn gydag Ymddiriedolaeth Carnegie, sydd wedi bod yn ystyried sut wedd fydd ar ddyfodol y stryd fawr yng Nghymru, a byddwn i'n hapus i rannu dolen i'r gwaith hwnnw gyda chydweithwyr oherwydd rwy'n siŵr y byddai o ddiddordeb i'r Aelodau ar draws y Siambr.
Ac o ran coedwig genedlaethol, rwyf innau hefyd yn rhannu brwdfrydedd y gwahanol bleidiau sydd bellach yn deall ac yn mynd i'r afael â phwysigrwydd sicrhau ein bod ni’n plannu coed yn y lleoedd iawn, a'n bod ni'n cyflwyno'r cynlluniau hynny ar gyfer cynnal a chadw ein coetiroedd a'n coedwigoedd hefyd. Siaradaf i â'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn i archwilio pa gyfleoedd a allai fod ar gael maes o law i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ein cynlluniau ni yn y maes hwnnw.
Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda? Wrth i ni nesáu at ddyddiadau'r toriad nawr, mae pob un ohonom yn ymwybodol bod cyfnod y Nadolig yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau meddygol, yn arbennig damweiniau ac achosion brys. Rwy'n talu teyrnged i bob un sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny dros gyfnod y Nadolig er mwyn ein cadw'n ddiogel a'n gwella, os oes angen y gwasanaethau hynny arnom ni. Ond yn aml iawn, yn anffodus, mae straeon negyddol o gwmpas yr adeg honno o'r flwyddyn am bwysau o fewn yr adrannau. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â sut y mae byrddau iechyd yn paratoi ar gyfer yr adeg brysur hon o'r flwyddyn, lle mae rotas o dan bwysau, ac yn amlwg dathliadau'r Nadoligaidd y mae llawer o bobl yn eu mwynhau ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn rhoi pwysau unigryw ar y gwasanaeth? Fel Aelod, rwy'n gwybod y byddwn i'n well o lawer os byddwn i'n gallu rhoi sylw i bryderon rhai o fy etholwyr os byddai'r wybodaeth honno yn cael ei chyflwyno i mi ar ddechrau'r tymor, yn hytrach nag efallai pan fyddwn ni i gyd yn dod yn ôl ac yn gofyn am ddatganiadau ar ôl y toriad. Gobeithio y byddwn ni'n gofyn am ddatganiadau sy'n dathlu llwyddiant yr adrannau hynny a'r ffordd y maen nhw wedi mynd i'r afael ag ef, yn hytrach na rywfaint o'r pwysau sy'n gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ail, rwyf wedi cael llythyr gan wahanol grwpiau o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ond yn enwedig Grŵp Ceidwadwyr Prifysgol Caerdydd, sydd wedi tynnu sylw, yn amlwg, at y pwysau y mae'r streic yn ei roi ar amser astudio. Rwy'n sylweddoli bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol ac nad yw hyn yn swyddogaeth uniongyrchol i'r Llywodraeth, ond mae'r Llywodraeth yn amlwg yn rhoi arian i'r sector addysg uwch ac yn cefnogi myfyrwyr drwy eu hamgylchedd dysgu. Byddwn i'n ddiolchgar os byddem ni'n gallu cael rhyw fath o ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch pa ymyriad, os o gwbl, y mae hi wedi'i wneud i siarad ag is-gangellorion. Mae'r cais y mae myfyrwyr Ceidwadol Prifysgol Caerdydd yn ei wneud yn ymddangos yn eithaf rhesymol i mi: pan fydd amser dysgu'n cael ei golli, bod yna ryw fath o ad-daliad; yn ail, pan fydd amserlenni wedi bod yn heriol, oherwydd bod y streic wedi rhoi pwysau ar derfynau amser, bod y terfynau amser hynny'n cael eu hymestyn.
Ac yn bwysig, yn drydydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os nad oes penderfyniad—. Yn anffodus, gallaf i weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen i beidio â rhoi'r datganiad, sy'n drueni, ond mae'r myfyrwyr yn amlwg yn gofidio am hyn. Ond yn drydydd, os gallem weld rhyw fath o oleuni ym mis Ionawr ar ddiwedd y twnnel hwn, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd y gweithredu'n digwydd eto ym mis Ionawr os na cheir ateb i'r anghydfod, a bydd hynny yn amlwg yn rhoi pwysau sylweddol ar arholiadau yn benodol—.
Felly, gyda'r tri chais hynny, byddwn i'n gobeithio'n fawr y gallwn ni gael ymateb gan y Llywodraeth, gan dderbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol a bod hyn yn fater iddyn nhw ei drafod yn uniongyrchol, ond mae gan y Llywodraeth ran fawr yn yr arian y mae'n ei roi i gefnogi'r sefydliadau a'r myfyrwyr, a byddwn i'n ddiolchgar am ymateb i hynny. Diolch.
Felly, er budd y cofnod, Llywydd, nid oedd y Gweinidog Addysg yn awgrymu na ddylai hi na Llywodraeth Cymru fod yn gwneud datganiad ar y mater hwn; roedd hi'n gwneud y pwynt, mewn gwirionedd, na all Gweinidogion Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru chwarae unrhyw fath o swyddogaeth ffurfiol mewn trafodaethau y DU gyfan. Wrth gwrs, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff ymreolaethol sy'n gyfrifol am faterion cyflogaeth, gan gynnwys pensiynau, ac mae'r cyfrifoldebau hynny'n perthyn i'r sefydliadau hynny eu hunain. Wedi dweud hynny, mae swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac unrhyw drafodaethau a allai ddigwydd yn y dyfodol, ac mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda CCAUC a Phrifysgolion Cymru i fonitro'r effaith ar staff a myfyrwyr. Rwy'n credu mai'r pryder mwyaf, mewn gwirionedd, yw'r effaith ar fyfyrwyr, a byddem ni yn sicr yn annog pob plaid yn eu hymdrechion i sicrhau setliad wedi'i negodi.
O ran cadernid y gaeaf, rydym wedi canolbwyntio'n ddi-ildio ar gefnogi gwelliannau a chynllunio ar gyfer cyfnod y gaeaf, ac nid ydym wedi atal y broses o adolygu'r gaeaf blaenorol na chynllunio ar gyfer y cyfnod sydd i ddod. Mae cynlluniau ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer y gaeaf bellach wedi dod i law a darparwyd adborth wedi'i dargedu i'r sefydliadau hynny. Hefyd, gofynnwyd iddyn nhw ddarparu cynlluniau wedi'u mireinio ynghyd â chynllun ar dudalen, sy'n amlinellu camau mewn cyfyngder ac asesiad o gapasiti gwelyau ar gyfer cyfnod y gaeaf, i'w ddychwelyd i Lywodraeth Cymru yr wythnos hon.
Mae cynlluniau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd wedi dod i law a darparwyd adborth ar eu cyfer. Ac ar 1 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog becyn o £30 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod gweddill 2019-20, gyda £17 miliwn wedi'i ddyrannu i fyrddau partneriaeth rhanbarthol, £10 miliwn i fyrddau iechyd lleol a'r £3 miliwn sy'n weddill wedi'i gadw ar gyfer blaenoriaethau a gytunwyd yn genedlaethol dros gyfnod y gaeaf. Ac, wrth gwrs, unwaith eto, rydym wedi cael yr ymgyrch Dewis Doeth, y byddwn ni'n ei chyflwyno ar adegau allweddol yn ystod misoedd y gaeaf, i atgoffa'r cyhoedd ei bod yn bwysicach byth defnyddio ein gwasanaeth iechyd yn gyfrifol, a bydd yr ymgyrch honno yn helpu i gyfeirio pobl at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion, ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau ei hyrwyddo'n lleol i'w hetholwyr.
Hoffwn i godi'r pryder sydd wedi dod i'r amlwg neithiwr os oeddech chi'n gwylio Newyddion 9 bod lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru'n cael eu hanghofio wrth i gyfrifiad 2021 gael ei gynnal. Yn benodol, y consérn yw na fydd yna unrhyw beth yn rhagor o ran opsiwn i ddatgan eich bod chi'n Gymro neu'n Gymraes, oni bai eich bod chi'n wyn. Nawr, mae hwn yn hollol anghyfrifol. Allaf i ddiolch hefyd, heddiw, y gantores, Kizzy Crawford, am drafod hyn yn fyw a sut mae hynny'n mynd i effeithio ar ei hunaniaeth hi a sut mae hi'n diffinio ei hun? Mae'r sefyllfa'n wahanol yn yr Alban, yn ôl beth dwi'n deall, ond y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd yn gyfrifol am weinyddu'r cyfrifiad yng Nghymru ar sail Cymru a Lloegr.
Nawr, mae Nia Jeffreys, sydd yn aelod cabinet Plaid Cymru dros gefnogaeth gorfforaethol ar Gyngor Gwynedd, eisoes wedi gohebu â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn barod, ond hoffwn ofyn i chi, fel Llywodraeth Cymru, pa gamau dŷch chi'n eu cymryd i gyfathrebu hwn at y cyfrifiad a pha ymdrechion dŷch chi'n eu gwneud er mwyn galluogi pobl i nodi'n swyddogol beth yw eu hunaniaeth? Os yw hyn yn digwydd ar y cyfrifiad, yna, mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw e'n digwydd mewn meysydd swyddogol eraill. Ar ddiwedd y dydd, dŷn ni ddim yn mynd i gael darlun clir o'r bobl sydd yn byw ac sydd yn gweithredu yma yng Nghymru os nad ydyn nhw'n gallu diffinio eu hun fel maen nhw eisiau ac fel sydd yn hawl iddyn nhw hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr nad yw'r cwestiwn ar ethnigrwydd ar hyn o bryd yn cynnwys pob un o'r aelodau hynny o gymdeithas sy'n ystyried eu hunain yn Gymry ond nad ydyn nhw'n wyn. Gallaf gadarnhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn codi hyn yn uniongyrchol gyda'r ONS ers cryn amser, ac rwyf wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad ar y mater hwn i godi pryderon Llywodraeth Cymru yn fwy ffurfiol. Nid ydym wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw eto, am resymau amlwg yn ôl pob tebyg gyda'r etholiad cyffredinol yn mynd rhagddo.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, o fewn y cyfrifiad, fod cwestiwn ar wahân ar hunaniaeth genedlaethol. Felly, gall unrhyw rai adnabod eu hunain fel Cymry, Saeson, Prydeinwyr neu unrhyw gyfuniad o hynny, ond cytunwn nad yw cwestiwn ethnigrwydd mor gynhwysol fel y caiff ei eirio ar hyn o bryd. Rydym ni eisiau i'r ONS ystyried y mater hwn yn ofalus. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle hefyd i bwysleisio bod y cyfrifiad yn 2021—mae mor bwysig ei fod yn gyfrifiad llwyddiannus, oherwydd mae'n hanfodol i'n dealltwriaeth ni o'r holl grwpiau poblogaeth hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y data sy'n helpu i lywio penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth. Felly, byddem ni'n annog cynifer o bobl â phosib i ymateb i'r cyfrifiad hwnnw pan fydd yn digwydd. Ond, Llywydd, byddwn i'n hapus iawn i rannu'r ymateb i'r llythyr a anfonais i at y Gweinidog dros y Cyfansoddiad a chopi o'r llythyr yr anfonais i gyda fy nghyd-Weinidogion.FootnoteLink FootnoteLink
Rheolwr Busnes, cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, at yr ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu, sef Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei adeiladu yn Llanfrechfa. Roedd croeso i hyn gan y bobl yr wyf yn eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, sy'n edrych ymlaen at gael yr ysbyty a'r cyfleusterau, a'r ehangu a'r gwelliant ym maes gofal iechyd y mae hyn yn ei gynnig. Ond er mwyn manteisio i'r eithaf ar botensial yr ysbyty i ddarparu gofal iechyd i bobl ledled ardal Aneurin Bevan, wrth gwrs, mae angen y rhwydweithiau trafnidiaeth arnom a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio'r cyfleusterau yno ac i ymweld â'r rheini sy'n gleifion mewnol yn yr ysbyty newydd.
Rwyf wedi siarad â'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Trafnidiaeth ynghylch y mater hwn, a chredaf i ei bod yn bwysig inni gael datganiad gan o leiaf un ohonyn nhw i sicrhau bod gennym ni'r holl rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, y cyllido a'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau i alluogi pobl i gyrraedd yr ysbyty hwnnw. Felly, byddwn i'n ddiolchgar o gael datganiad ar hynny yn gynnar yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod yr holl systemau trafnidiaeth hyn yn eu lle pan gaiff yr ysbyty newydd ei gomisiynu.
Diolch yn fawr iawn i Alun Davies. Wrth gwrs, mae e'n iawn i ddweud y bydd mynediad i'r cyhoedd i ysbyty newydd y Grange yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ysbyty hwnnw'n gallu diwallu anghenion pobl yr ardal yn y ffordd orau ac yn cynnig cyfleoedd i'w teuluoedd ymweld â nhw a'u cefnogi, ac ati.
Rwy'n falch ei fod wedi cael cyfle i drafod hyn gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a'r Gweinidog Iechyd, ond mae'r Gweinidog Iechyd newydd ddangos i mi y byddai ef yn hapus iawn i gael cyfarfod pellach i drafod y mater yn fanylach, efallai, pan ddaw cyfle yn y dyfodol agos.
Diolch i'r Trefnydd am y datganiad yna.